Heddiw, mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi map o’r 29 etholaeth newydd sy’n cael eu hargymell yn lle’r 40 presennol yng Nghymru.

Ar y map hwn, y gallwch ei astudio’n fanylach yn fan hyn, wedi mynd y mae Aberconwy, Ynys Môn, Gorllewin Clwyd ac Arfon; wedi uno y mae Ceredigion a Gogledd Sir Benfro; ar ei phen ei hun ac yn unedig y mae Caerfyrddin; ac mae Aberhonddu, Sir Faesyfed a Maldwyn yn un etholaeth fawr.

Mae hen etholaeth Dwyfor-Meirionnydd ar y map newydd yn ymestyn o Aberdaron yn y gorllewin at dre’ Dinbych yn y dwyrain, ac i lawr at ffin Gwynedd/Ceredigion yn y de, dan yr enw newydd Gogledd Clwyd a Gwynedd.

Mae nifer yr etholwyr ym mhob uned yn amrywio o 71,097 yn etholaeth newydd De Clwyd a Gogledd Sir Drefaldwyn; i ddwy etholaeth fwya’r drefn newydd, Cwm Cynon a Phontypridd sy’n cynnwys 78,005 o etholwyr, a Gogledd Caerdydd efo’i 78,014 o etholwyr.