Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Fe fydd manylion am dreth Gymreig newydd – y gyntaf mewn bron i 800 mlynedd – yn cael ei hamlinellu mewn deddfwriaeth ddydd Llun.

Os yw’n dod i rym, mae disgwyl i’r dreth gymryd lle’r dreth stamp presennol sy’n cael ei thalu gan unrhyw un sy’n prynu neu rentu adeilad neu dir dros bris penodol.

Yn 2014-15, fe wnaeth y dreth stamp godi tua £170 miliwn yng Nghymru ond mae disgwyl i’r ffigwr gynyddu i £244 miliwn erbyn 2018-19.

Mesur Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) yw’r Mesur cyntaf i’w gyflwyno dan Raglen Ddeddfwriaethol newydd Llywodraeth Cymru. Bydd hefyd yn cynnwys mesurau i fynd i’r afael a phobol sy’n osgoi talu treth.

‘Carreg filltir’

Bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud am gyfraddau a bandiau’r dreth trafodiadau tir yn agosach at fis Ebrill 2018, gyda’r amodau economaidd a’r blaenoriaethau yn cael eu hystyried bryd hynny.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: “Mae hon yn garreg filltir hanesyddol yn y broses o ddatganoli pwerau trethi i Gymru. Mae’r Bil hwn yn gam arall ymlaen yn y gwaith o greu trethi sy’n fwy addas i anghenion Cymru ac sy’n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Disgwylir i’r Bil gael ei gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol am y Bil yn y Cyfarfod Llawn yfory.