Twnnel Hafren (Llun: Network Rail)
Fe fydd Twnnel Hafren ynghau am chwe wythnos o heddiw ymlaen oherwydd gwaith i ddiweddaru’r rheilffordd er mwyn paratoi ar gyfer trydaneiddio’r lein.

Fe fydd yn golygu bod y daith rhwng de Cymru a Llundain yn cymryd 34 munud yn hirach.

Mae disgwyl i’r twnnel fod ynghau tan 21 Hydref.

Yn ystod y cyfnod yma fe fydd Great Western Railway yn cynnal 32 o wasanaethau trên y dydd rhwng Caerdydd a Llundain.

Yn ôl y cwmni, os nad ydyn nhw’n cau’r twnnel fe fyddai’r gwaith yn cymryd hyd at bum mlynedd i’w gwblhau.

Fe fydd y gwaith yn golygu bod trenau i Lundain yn cael eu dargyfeirio drwy Gaerloyw, fydd yn ychwanegu hyd at  45 munud i deithiau

Ac ni fydd trenau i Fryste, ond fe fydd gwasanaeth bws yn cysylltu gorsafoedd Casnewydd a Chyffordd Twnnel Hafren gyda Bristol Parkway, fydd yn ychwanegu tua 40 munud i’r siwrne.

‘Cynnig ateb’

Yn y cyfamser mae cwmni awyrennau Flybe wedi dod i’r adwy er mwyn cynnig gwasanaeth awyr newydd rhwng Maes Awyr Caerdydd i Faes Awyr Dinas Llundain tair gwaith y dydd. Ac yn ôl Ken Skates, Gweinidog yr Economi fe allai’r gwasanaeth barhau ar ôl y cyfnod o chwe wythnos os yw’n boblogaidd.

Dywedodd Ken Skates: “Mae’r cysylltiadau rhwng De Cymru a De-ddwyrain Lloegr yn hanfodol ar gyfer busnesau a chymudwyr a dw i’n falch iawn o weld bod Maes Awyr Caerdydd yn cynnig ateb i sefyllfa a allai fod wedi achosi oedi costus iddyn nhw.

“Mae’r teithiau awyr hyn yn ddewis cyfleus ac amserol ar gyfer unrhyw un sydd am weithio, fynd ar ymweliad neu gynnal busnes ym mhob pen o’r M4.

“Gwn fod llawer o arweinwyr ym maes busnes yn edrych ymlaen yn barod at yr amser a’r arian y byddan nhw’n eu harbed, a hefyd at y cyfleoedd a allai ddod i’w rhan. Bydd y teithiau awyr hyn yn ategu’r gwasanaethau bysiau a threnau a fydd yn cael eu darparu yn lle’r gwasanaeth arferol yn ystod y cyfnod dan sylw.

“Os gwelir bod y teithiau hyn yn boblogaidd, deallaf y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i barhau â’r gwasanaeth ar ôl y cyfnod o chwe wythnos.”