Fe fydd Gŵyl Rhyd yn cael ei chynnal heddiw ym mhentref Rhydyclafdy ym Mhen Llŷn.

Fe fydd yn cael ei chynnal yng Nghae’r Hen Ysgol yn y pentref, gyda’r adloniant yn dechrau am 11 y bore tan 6 yr hwyr.

Fe fydd y gantores a’r cerddor adnabyddus, Gwyneth Glyn yn gorffen y diwrnod mewn steil, gyda’r gantores amryddawn Magi Tudur yn cynnig arlwy gwerin.

Yn perfformio hefyd fydd y band poblogaidd Cowbois Rhos Botwnnog yn rhoi’r roc a rôl, gyda’r Welsh Whisperer yn cyfrannu ei ddychan cerddorol, tra bydd y band ifanc Pyroclastic yn dechrau’r adloniant.

Yn ystod y dydd, mae llu o weithgreddau i blant, gyda marchnad Cynnyrch Llŷn yn cynnig cynnyrch lleol.

£3 yw pris mynediad y digwyddiad.