Gwifren zip ym Methesda Llun: Gwefan Zip World
Mae  dau o atyniadau gogledd Cymru wedi llwyddo i gyrraedd rhestr o 20 o anturiaethau eithafol gorau’r byd gan wefan TravelSupermarket.

Llwyddodd y ‘catapult blob’ yn Surf Snowdonia yn Nolgarrog, Sir Conwy, i gyrraedd rhif 18 yn y rhestr, a daeth gwifren zip Velocity yn Zip World, Bethesda i frig y rhestr.

Mae’r ddau atyniad yn unigryw gan mai Surf Snowdonia yw’r llyn syrffio artiffisial masnachol cyntaf yn y byd ac mae’r wifren zip Velocity yn caniatáu i bobl deithio ar gyflymder o fwy na 100 milltir yr awr.

Roedd anturiaethau eithafol eraill ar y rhestr yn cynnwys neidio bynji i mewn i losgfynydd yn Chile a hela stormydd yn Nyffryn Tornado yn yr Unol Daleithiau.

‘Rhoi Cymru ar y map’ 

Wrth longyfarch y ddau atyniad, meddai AS Aberconwy Guto Bebb: “Yn ddiweddar, mae gogledd orllewin Cymru wedi cael ei enwi’n brif ardal antur Ewrop ac mae cael dau atyniad yn cyrraedd 20 gorau’r byd yn dangos bod yr enw da yn un haeddiannol iawn.”

“Rwy’n arbennig o falch o weld Aberconwy, sy’n gartref i Surf Snowdonia a Zip World yn chwarae rhan flaenllaw yn rhoi Cymru ar y map.”