Aled-Sion Davies
Mae’r Gemau Paralympaidd yn dechrau yn Rio de Janeiro yfory, lle bydd 26 o athletwyr o Gymru yn cymryd rhan.

Maen nhw wedi’u dewis ymhlith cyfanswm o 264 o athletwyr ar ran Prydain, ac felly’n cynrychioli 10% o’r garfan.

Ac eleni, mae Chwaraeon Cymru wedi gosod targed iddyn nhw ennill rhwng 20 a 30 o fedalau yn ystod y Gemau Paralympaidd yn Rio a Tokyo.

‘Cyfle i wneud eu marc’

“Rydyn ni’n falch iawn o fod â 26 o athletwyr o Gymru wedi’u dewis ar gyfer y Gemau Paralympaidd,” meddai Jon Morgan, cyfarwyddwr gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru.

“Mae gennym ni grŵp o athletwyr sy’n cynnwys pencampwyr byd, pencampwyr Ewropeaidd, deiliaid record byd ac enillwyr medalau Paralympaidd.

“Mae gennym hefyd ieuenctid yn eu harddegau fel Sabrina Fortune a Jack Hodgson a fydd yn cystadlu am y tro cyntaf yn y Gemau Paralympaidd,” meddai wedyn.

Ychwanegodd Brian Davies, Cyfarwyddwr Chwaraeon Elitaidd Chwaraeon Cymru:

“Mae ganddyn nhw i gyd gyfle i wneud eu marc yn y Gemau ac i greu mwy o uchafbwyntiau mewn haf sydd wedi bod yn un rhyfeddol hyd yma i chwaraeon yng Nghymru.”

Yr athletwyr o Gymru

–       David Phillips o Gwmbrân, Saethyddiaeth.

–       Jodie Grinham yn wreiddiol o Aberteifi, Saethyddiaeth.

–       Aled-Sion Davies o Ben-y-bont ar Ogwr, Siot.

–       Beverley Jones o Y Fferi Isaf, Siot / disgen.

–       Hollie Arnold o Ystrad Mynach, Gwaywffon.

–       Jordan Howe o Gaerdydd, 100m a 200m.

–       Kyron Duke o Gwmbran, Siot a Gwaywffon.

–       Laura Sugar o Gaerdydd, 100m a 200m.

–       Olivia Breen yn wreiddiol o Gaerdydd, Naid Hir a Ras Gyfnewid 4x100m.

–       Rhys Jones o Donypandy, 100m.

–       Sabrina Fortune o’r Wyddgrug, Siot.

–       Stephen Morris o Gaerdydd, 1500m.

–       Jack Hodgson yn wreiddiol o Lanilltud Fawr, Jiwdo.

–       Rachel Morris yn wreiddiol o Sir Benfro, Rhwyfo.

–       Stephen Thomas o Ben-y-bont ar Ogwr, Hwylio.

–       Owen Burke o Fodelwyddan, Saethu.

–       Aaron Moores o Abertawe, Nofio.

–       Paul Davies o Ben-y-bont ar Ogwr, Tenis Bwrdd.

–       Paul Karabardak o Abertawe, Tenis Bwrdd.

–       Rob Davies o Aberhonddu, Tenis Bwrdd.

–       Sara Head o Lantrisant, Tenis Bwrdd.

–       Clare Griffiths yn wreiddiol o Gasnewydd, Pêl-fasged.

–       Phil Pratt o Gaerdydd, Pêl-fasged.

–       Jim Roberts o’r Trallwng, Rygbi.

–       James Ball o Gasnewydd, Seiclo.

–       Gemma Collins yn wreiddiol o Gwm Rhymni, Ffensio.