Tractor yn symud car o faes parcio Gwyl Rhif 6, Portmeirion Llun: Golwg360
Dylai ymchwiliad annibynnol gael ei gynnal i ganfod pam fod asiantaethau, sy’n gyfrifol am reoli llifogydd yn ardal Porthmadog, wedi caniatáu i drefnwyr Gŵyl Rhif 6 gael dynodi maes parcio ar safle sy’n dueddol o ddioddef gorlifiad.

Dyna farn dau gynghorydd lleol wedi i gannoedd o geir gael eu dal yn sownd mewn mwd ac i 160 o bobol gael eu gorfodi i aros dros nos mewn canolfan hamdden am nad oedden nhw’n medru gadael y safle.

Mae’r cynghorwyr Jason Humphreys ac Alwyn Gruffydd o Lais Gwynedd wedi dweud eisoes nad oedd cynnal a chadw digonol ar fesurau atal llifogydd y fro a’u bod yn cael eu hamddifadu o wybodaeth gan yr asiantaethau rheoli llifogydd.

Ac mae trafferthion diweddar ym maes parcio Gŵyl Rhif 6 wedi amlygu’r ffaith bod angen i Gyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru, sy’n gyd-aelodau o Grŵp Ymgynghorol Llifogydd Lleol, ddefnyddio eu grymoedd cyfreithiol i wahardd parcio ar y safle, yn ôl y ddau gynghorydd.

Dywed trefnwyr Gŵyl Rhif 6 bod 90% o’r cerbydau oedd yn y maes parcio ger Porthmadog wedi cael eu cludo oddi yno erbyn hyn, gyda chymorth 18 o dractorau a’u bod yn gobeithio symud gweddill y ceir mor fuan â phosib. Maen nhw wedi ymddiheuro wrth ymwelwyr yr ŵyl am y trafferthion.

‘Yn y tywyllwch’

“Rydan ni’n gwybod for yr asiantaethau yma wedi cyfarfod bythefnos yn ôl i drafod y materion hyn,” meddai Jason Humphreys.

“Ond nid ydym ni fel cynrychiolwyr etholedig lleol wedi derbyn unrhyw wybodaeth ac mae hynny i ni’n gwbl annerbyniol.”

Mae’r ddau gynghorydd bellach yn galw am adolygiad buan i ganfod pam fod cymaint o wahanol asiantaethau’n ymwneud â rheoli llifogydd yn ardal Porthmadog ac ymchwilid annibynnol i weld beth aeth o’i le.

“Roedd yr asiantaethau yma’n ymwybodol o’r peryglon ond ni wnaethant ymateb yn ddigonol,” meddai’r Cynghorydd Jason Humphreys.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb gan ddweud eu bod wedi gwneud ymdrech i drafod y broblem gyda’r cyhoedd drwy gynnal sesiwn galw heibio a’u bod am rannu gwybodaeth bellach mewn cylchlythyr .