Ceir yn sownd ym maes parcio Gwyl Rhif 6 (Llun: Richard Howells)
Fe ddylai asiantaethau sy’n gyfrifol am ddelio â llifogydd yng Ngwynedd fod wedi rhoi mwy o wybodaeth i drefnwyr Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion am gyflwr caeau’r maes parcio, lle bu cannoedd o geir yn sownd mewn mwd dros nos, medd cynghorydd lleol.

Bu’n rhaid i Ganolfan Hamdden Glaslyn agor ei drysau neithiwr i 160 o bobol gael lloches gan fod yr ŵyl yn methu a delio a nifer uchel y ceir sy’n methu symud o gaeau ger tref Porthmadog.

Fe wnaeth tua 15,000 o bobol heidio i bentref Portmeirion dros y penwythnos ond mae cannoedd  wedi methu a chyrraedd adref neithiwr oherwydd llifogydd mawr yn y maes parcio.

Mae trefnwyr yr ŵyl wedi dweud eu bod yn gwneud “popeth posib” i sicrhau bod pobl yn gallu symud eu ceir o’r maes parcio.

Ac mae golwg360 wedi cael gwybod bod pobol wedi bod yn cynnig arian i yrwyr tractorau i dynnu eu ceir o’r mwd.


Y mwd ar safle Gwyl Rhif 6, Portmeirion
‘Hawlio arian’

Dywedodd Alwyn Gruffydd sy’n gynghorydd ar ran Llais Gwynedd yn ardal Porthmadog bod trigolion yr ardal yn hen gyfarwydd â’r afon ger caeau’r clwb pêl-droed yn gorlifo’i glannau mewn glaw trwm.

Mae o’n credu na roddodd Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Llywodraeth ddigon o wybodaeth i’r trefnwyr am gyflwr y tir:

“Dwi’n meddwl y dylai’r bobol sydd wedi mynd yn sownd yn y mwd fod yn hawlio arian gan yr asiantaethau lleol sy’n delio a llifogydd. Ni roddwyd digon o wybodaeth iddyn nhw, er gwaethaf rhybuddion.

“Dwi ddim yn meddwl fod bai ar y trefnwyr o gwbl ond mae’n drychineb i’r ŵyl a’r economi leol,” meddai.


Y babell ar safle Gwyl Rhif 6, Portmeirion lle mae pobl wedi bod yn aros oherwydd llifogydd
‘Anhrefn’

Yn ol un teulu o Lanelwy, nad oedd am gael eu henwi, dydyn nhw heb glywed gan drefnwyr yr ŵyl ers neithiwr ac mae eu car yn dal yn sownd yn y cae heddiw.

Maen nhw wedi bod yn aros mewn pabell ynghyd â nifer o bobol eraill dros nos.

Dywedodd y teulu bod pobol wedi bod yn cynnig arian i yrwyr y tractorau i symud eu ceir a bod y cwbl yn “anrhefn” a bod pawb bellach “wedi blino ac eisiau mynd adre.”

Cydymdeimlad

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan cydymdeimlad gyda’r bobl gafodd eu heffeithio gan y glaw trwm:
“Mae’r ardal a ddefnyddir ar gyfer parcio ceir yn orlifdir naturiol sydd o dan ddŵr yn rheolaidd yn ystod cyfnodau o law trwm. Rydym yn cydymdeimlo gyda’r bobol gafodd eu heffeithio.

“Er gwaethaf hyn, roedd gennym staff allan drwy’r penwythnos yn agor a chau’r llifddorau ym Mhorthmadog er mwyn helpu i leihau lefelau dŵr ar y gorlifdir.

“Heb ein hymdrechion, fe allai dwr llif yn yr ardal – sydd yn orlifdir naturiol – fod yn llawer dyfnach.”

Bydd Canolfan Hamdden Glaslyn a Llyfrgell Porthmadog, sydd wedi ei lleoli o fewn y Ganolfan Hamdden, ar gau i’r cyhoedd heddiw a bydd y Ganolfan Orffwys yn parhau ar agor i unrhyw un sydd ei angen.

‘Sicrhau diogelwch pawb’

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Ar hyn o bryd, mae pawb sy’n delio efo’r sefyllfa ym Mhorthmadog yn canolbwyntio ar helpu a chefnogi mynychwyr a threfnwyr  yr ŵyl mewn ymdrech i sicrhau diogelwch pawb.

“Yn unol â’r trefniadau arferol ar gyfer unrhyw ŵyl neu brif ddigwyddiad, byddwn yn cwrdd â threfnwyr Gŵyl Rhif 6 a phartneriaid eraill yn y dyfodol agos i edrych yn ôl dros yr holl drefniadau.”