Cloddio yn Carn Goedog Preseli y llynedd (Llun: Adroddiad UCL)
Dros y penwythnos mae’r ymchwil i ddarganfod a oes cysylltiad rhwng rhai o gerrig Côr y Cewri a Chymru wedi cymryd cam ymlaen wrth i archeolegwyr ddechrau cloddio safle newydd.

Ym mis Rhagfyr y llynedd, fe gyhoeddodd cymdeithas archaeolegol Antiquity adroddiad yn awgrymu y gallai rhai o gerrig Côr y Cewri Wiltshire, Lloegr fod wedi tarddu o gwareli yng ngogledd Sir Benfro.

Eisoes, mae archeolegwyr wedi cynnal gwaith ymchwil ar safleoedd yn ardal y Preseli i’r de o Eglwyswrw, sef Garn Goedog a Chraig Rhos-y-felin, a thros y penwythnos fe wnaethant ddechrau cloddio trydydd safle yn agos at y ddau, ar dir fferm Pensarn.

Gwaith ymchwil

Mae’r ymchwil yn cael ei gynnal gan dîm o Goleg Prifysgol Llundain (UCL) ac yn cael ei arwain gan yr Athro Mike Parker Pearson, ynghyd ag arbenigwyr o Brifysgol Manceinion, Bournemouth a Southampton.

Mae disgwyl i’r gwaith bara rhai wythnosau a phrif amcanion yr ymchwil ydy ceisio sefydlu a oes cysylltiad rhwng y safleoedd, deall yr elfennau neolithig a throsglwyddiad y cerrig.

Mae’r cysylltiad rhwng cylch mewnol Côr y Cewri a ‘cherrig glas’ mynyddoedd y Preseli wedi bod yn amlwg ers yr 1920au.

Yn yr adroddiad ym mis Rhagfyr, dywedodd yr Athro Mike Parker Pearson bod eu darganfyddiadau’r llynedd yn “gwyrdroi’r syniad” o ran eu tybiaeth am drosglwyddiad y cerrig o Gymru.