Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi’r enwau mwyaf poblogaidd ar fabis yng Nghymru yn 2015 – ac mae’n dangos fod enwau Cymraeg ymhell i lawr y rhestr wrth i rieni yr ochr yma i Glawdd Offa ddilyn tueddiadau Lloegr.

Oliver yw’r enw sy’n dod i’r brig yng Nghymru, a’r enw Cymraeg mwyaf poblogaidd yw Dylan sydd yn safle 13 allan o 50.

Amelia yw’r enw mwyaf poblogaidd i ferched yng Nghymru tra mai Seren yw’r enw Cymraeg mwyaf poblogaidd, a 17fed o blith y 50 enw uchaf. Ffion yw’r ail ddewis gorau yn Gymraeg, yn safle 20.

Yn rhestr y bechgyn, y mae enwau Cymraeg fel Rhys, Osian, Tomos a Jac yn hawlio’u lle, tra bod yr enwau Mali ac Erin ymhlith yr hanner cant o hoff enwau merched.

Y deg uchaf yn dilyn Lloegr

Y mae’r deg uchaf ymhlith enwau’r bechgyn yng Nghymru yn cynnwys enwau fel Harry, Jacob ac Oscar, tra bod Ava, Isabella ac Olivia yn hawlio’i lle yn rhestr deg uchaf enwau merched.

Fe gyhoeddodd yr Swyddfa Ystadegau Gwladol yr ystadegau fel rhestrau gwahanol ar gyfer Cymru a Lloegr, ond Oliver (neu Olly) ac Amelia oedd y ddau enw mwya’ poblogaidd yn y ddwy wlad.