Llun: Y Gwasanaeth Iechyd (GIG)
Mae adroddiad yn dangos fod cynnydd wedi bod yn nifer y bobol y cafodd eu bywydau eu hachub neu eu gwella drwy drawsblaniad.

Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething wedi croesawu darganfyddiadau’r Adroddiad ar Weithgarwch Rhoi Organau a Thrawsblaniadau diweddaraf.

Hwn yw’r adroddiad cyntaf ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno system gofrestru i optio allan a chydsyniad tybiedig y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Mae’r adroddiad yn nodi bod 214 o gleifion wedi cael eu hachub neu eu gwella yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw oherwydd trawsblaniad – sy’n cyfateb i gynnydd o 24%.

O ystyried ffigurau 2014 hefyd, mae’r cynnydd yn nes at 41%.

Ymhlith pobol fu farw yn ystod y flwyddyn dan sylw, cynyddodd y nifer a roddodd organau 7% i 64, o’i gymharu â 60 y flwyddyn gynt.

Cynyddodd nifer y rhoddwyr ar ôl i’r ymennydd farw 13% i 36 (32 y flwyddyn gynt), tra bod nifer y rhoddion ar ôl i gleifion farw o ddiffyg cylchred gwaed wedi aros yn gyson, sef 28.

Roedd 49 o roddwyr yn byw yng Nghymru, sy’n gynnydd o 20%.

Cafodd 136 o gleifion sy’n byw yng Nghymru drawsblaniad cornbilen i adfer eu golwg, sef cynnydd o 5%.

Y drefn newydd

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i newid y system rhoi organau drwy gyflwyno system o optio allan.

Caiff pobl 18 oed neu hŷn sydd wedi byw yng Nghymru am fwy na 12 mis ac sy’n marw yng Nghymru eu hystyried bellach fel pe baent wedi rhoi cydsyniad i roi organau, oni bai eu bod wedi optio allan.

Gall pobl sy’n dymuno bod yn rhoddwr organau gofrestru penderfyniad i optio i mewn, neu wneud dim, a fydd yn golygu nad oes ganddyn nhw wrthwynebiad i fod yn rhoddwr organ.

Gall y bobl hynny nad ydyn nhw’n dymuno bod yn rhoddwr organau optio allan unrhyw bryd.

Mae’r data’n cael eu cyhoeddi cyn dechrau’r ymgyrch Wythnos Rhoi Organau sy’n rhedeg o 5 Medi hyd at 10 Medi.

Nod yr ymgyrch yw annog pobl ifanc 18 – 34 oed i drafod eu penderfyniad rhoi organ (Amser Trafod Rhoi Organau) ac atgoffa oedolion ledled Cymru am eu hopsiynau o dan y system newydd.

Bydd e-bost a llythyr uniongyrchol yn cael eu hanfon at bob myfyriwr sydd wedi derbyn lle i astudio yng Nghymru drwy’r system UCAS ond sy’n byw y tu allan i Gymru.

‘Da gweld cynnydd’

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: “Mae’n dda gweld cynnydd yn nifer y bobl y mae trawsblaniad organ yn achub neu’n gwella eu bywydau.

“Mae llawer o’r data yn yr adroddiad heddiw yn gadarnhaol i Gymru, gan ddangos bod pethau yn symud i’r cyfeiriad iawn; ond mae gwaith i’w wneud o hyd. Mae ffigurau heddiw yn dangos inni fod 192 o gleifion yn aros am drawsblaniad ddiwedd mis Mawrth 2016 a bod 24 o gleifion wedi marw wrth iddynt aros am drawsblaniad.

“Hoffwn annog pawb ar draws Cymru i siarad â’u hanwyliaid am eu penderfyniad rhoi organau a dyna pam mae ein hymgyrch Amser Trafod Rhoi Organau mor bwysig.

“Er ein bod yn gwybod bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn cynyddu, mae’n bwysig iawn ein bod yn lledaenu’r neges i bobl Cymru ynglŷn â’r mater hwn.

“Yn enwedig wrth i’r flwyddyn academaidd newydd agosáu, mae’n bwysig bod y myfyrwyr newydd sy’n dod i Gymru i astudio yn deall sut y mae’r broses o roi organau yn gweithio yng Nghymru.”

‘Angen buddsoddi’

Ond meddai’r Ceidwadwyr Cymreig bod y cynnydd yn nifer y bywydau sy’n cael eu hachub i’w groesawu ond amser a ddengys a fydd y system optio allan yn effeithlon.

Meddai llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Iechyd, Angela Burns AM: “Mae’n bwysig cofio bod angen i  nifer y rhoddion – boed o’r ymadawedig neu roddwyr byw – gyfateb gydag unedau gofal dwys, sydd ag offer digonol a staffio gan y nifer angenrheidiol o nyrsys arbenigol, fel bod yr holl broses o achub bywydau yn cael ei ddarparu’n briodol.

“Yn rhy aml, gall diffyg mewn buddsoddiad a hyfforddiant arbenigol fod yn rhwystr difrifol i ganlyniadau llwyddiannus ar gyfer y rhai sy’n derbyn organau.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y buddsoddiad yn y maes hwn yn parhau i godi â’r cynnydd hwn.”