Dolffiniaid Risso ger Ynys Enlli Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae’r gwaith o fonitro math arbennig o ddolffiniaid ger Ynys Enlli wedi dechrau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n cydweithio â chorff cadwraeth i fonitro dolffiniaid Risso yn un o’r ychydig safleoedd yng ngwledydd Prydain lle mae modd eu gweld nhw’n agos i’r lan.

Dechreuodd y gwaith monitro ddydd Sadwrn diwethaf, ac fe fydd yn para am bythefnos tra bod arbenigwyr yn asesu arferion bwyta a dulliau’r dolffiniaid o gyfathrebu â’i gilydd.

Mae modd gwylio fideo o’r dolffiniaid ar safle YouTube Cyfoeth Naturiol Cymru.

‘Helpu i’w gwarchod’ 

Dywedodd arbenigwr Cyfoeth Naturiol Cymru ar famoliaid morwrol, Ceri Morris: “Mae bywyd gwyllt yn rhan bwysig o’n hamgylchedd, ein treftadaeth a’n diwylliant yng Nghymru ac mae’n bwysig ein bod ni’n monitro rhywogaethau fel yr un yma er mwyn helpu i’w gwarchod nhw.

“Ar y cyfan, mae’n well gan ddolffiniaid Risso ddŵr dyfnach lle maen nhw’n bwyta môr-lewys ac octopysau. Felly mae’r ardal hon o amgylch Ynys Enlli lle mae modd eu gweld nhw’n agos i’r lan yn eithaf prin yn y DU.

“Maen nhw’n cael eu geni’n llwyd ond wrth iddyn nhw heneiddio, mae eu cyrff yn cael eu gorchuddio â sgathriadau a chreithiau rydyn ni’n eu defnyddio i’w hadnabod nhw.”

‘Deall pwysigrwydd yr ardal’ 

Mae lle i gredu mai môr-lewys sy’n achosi’r creithiau, ynghyd â dolffiniaid eraill wrth iddyn nhw ryngweithio â’i gilydd.

Ychwanegodd Ceri Morris: “Bydd ein gwaith monitro’n cynnwys adnabod unigolion i weld a ydyn nhw’n dychwelyd i’r un ardal, a gallwn hefyd ddarganfod a ydyn nhw wedi cael eu gweld yn rhywle arall.

“Bydd yr holl wybodaeth rydym yn ei chasglu’n ein helpu i amcangyfrif sawl dolffin Risso sydd o amgylch Ynys Enlli, a deall pwysigrwydd yr ardal hon ar gyfer bridio a bwydo.”