Cyngor Sir Caerfyrddin
Mae llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cadarnhau bod y cais i adeiladu 28 o gartrefi ar hen safle’r hufenfa yn Hendy-gwyn ar Daf wedi’i gymeradwyo heddiw.

Fe wnaeth wyth aelod o’r Pwyllgor Cynllunio bleidleisio o blaid y cynllun, chwech yn erbyn ac un yn ymatal.

Daw’r penderfyniad er gwaethaf argymhellion gan swyddogion cynllunio oedd yn awgrymu gwrthod y cais gan nodi byddai’r tai yn mynd â lleoliad a allai gael ei ddefnyddio i gynnig cyflogaeth.

Ond, mae’r safle wedi bod yn wag ers tua dwy flynedd bellach.

Bydd rhaid i’r cynllun gael ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio yn awr i esbonio eu penderfyniad, cyn bwrw ymlaen â chaniatâd terfynol.