Gorsaf bŵer Didcot ar ol i'r adeilad ddymchwel Llun: PA
Mae heddiw yn nodi chwe mis union ers i adeilad chwalu yng ngorsaf bŵer Didcot A yn Swydd Rydychen gan ladd pedwar o ddynion.

Ond chwe mis yn ddiweddarach, mae cyrff tri o’r dynion hynny yn dal heb eu canfod gydag Aelodau Seneddol yn ei alw’n “sgandal cenedlaethol.”

Ymhlith y dynion gafodd eu lladd mae Chris Huxtable, 34 oed, o Abertawe ynghyd â dau arall o Rotherham yn Ne Swydd Efrog, sef Ken Cresswell a John Shaw oedd yn gwneud gwaith dymchwel pan syrthiodd yr adeilad yn annisgwyl ar Chwefror 23.

Cafodd corff y pedwerydd dyn, Michael Collings, ei ganfod yn fuan yn ystod y broses chwilio.

Yn y cyfamser, mae’r Aelod Seneddol ar gyfer Didcot a Wantage, Ed Vaizey, wedi ysgrifennu at y cwmni yng ngofal y safle, RWE NPower i bwyso am eglurhad.

Bydd pedair munud o dawelwch yn cael ei gynnal heddiw yng ngorsaf bŵer Didcot er cof am y dynion.

Cafodd gweddill yr adeilad ei ddymchwel mewn ffrwydrad ar ddiwedd mis Gorffennaf.