Mae BBC Cymru’n wynebu heriau sylweddol, yn ôl arolwg o’i wasanaethau gan Ymddiriedolaeth y BBC.

Dywed yr Ymddiriedolaeth fod gan BBC Cymru rôl bwysig i’w chwarae yn y byd darlledu, a bod perfformiad y gwasanaethau’n dda ac uwchlaw cyfartaledd y Deyrnas Unedig.

Nododd yr arolwg fod gan Radio Wales a Radio Cymru ill dau swyddogaeth glir wrth gefnogi a chryfhau’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig. Ond dydyn nhw ddim yn cyrraedd cynifer o bobol bellach ag yr oedden nhw yn y gorffennol.

Er bod canmoliaeth i wasanaethau newyddion a materion cyfoes BBC Cymru ar y teledu ac ar y we, mae llai o bobol yn eu defnyddio bellach, yn unol â thueddiadau cyffredinol o ran mynediad y cyhoedd i’r cyfryngau.

Pobol ifanc

Un o’r prif heriau sy’n wynebu BBC Cymru yw sut i gyrraedd y to iau – pobol hŷn yw prif gynulleidfa’r gwasanaeth o hyd, a hynny ar y teledu a’r radio.

Nododd yr arolwg hefyd fod gwasanaeth ar-lein Cymru Fyw yn denu 42,000 o ddefnyddwyr bob wythnos, a dau draean ohonyn nhw o dan 45 oed.

Dywedodd 91% o ddefnyddwyr bod y gwasanaeth yn rhoi gwybodaeth, 83% yn dweud ei fod yn berthnasol, 81% yn dweud ei fod o safon uchel a 71% yn dweud bod eu hardaloedd yn cael digon o sylw.

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi gofyn i’r BBC sut mae’n bwriadu mynd i’r afael â’r heriau sydd wedi cael eu crybwyll.

“Rhan bwysig yn dathlu Cymru”

Dywedodd Ymddiriedolwr y BBC dros Gymru, Elan Closs Stephens: “Mae gwasanaethau’r BBC yng Nghymru yn chwarae rhan bwysig iawn yn hysbysu, cefnogi a dathlu Cymru.

“Mae Radio Cymru a Radio Wales yn unigryw ac maent yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr iawn gan gynulleidfaoedd yng Nghymru, ond maent yn wynebu heriau.

“Mae’r Ymddiriedolaeth yn falch o weld bod Radio Wales eisoes yn edrych ar ei gyfeiriad golygyddol, ac rydym wedi gofyn i’r BBC ystyried sut y dylai ei gynigion iaith ddatblygu yn y dyfodol.

“Mae Rona Fairhead wedi gwneud ymrwymiad i sicrhau bod gwasanaethau’r cenhedloedd yn faes blaenoriaeth i Fwrdd newydd y BBC ac rwy’n credu bod hyn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen i BBC Cymru.”