Mae trigolion Powys wedi cael eu rhybuddio am lythyrau twyll sy’n honni eu bod wedi ennill swm mawr o arian mewn loteri.

Mae’r llythyrau sydd wedi cael eu hanfon at drigolion y sir yn honni bod y loteri yn hyrwyddo’r Gemau Olympaidd a Chwpan y Byd pêl-droed, yn ôl Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Powys.

Mae’r llythyr yn awgrymu bod y derbynnydd wedi ennill £900,000 ar ôl cael eu dewis drwy system gyfrifiadurol o dair miliwn o bobol ar draws y byd.

Mae’r llythyr hefyd yn gofyn i drigolion gysylltu gydag “asiant” er mwyn hawlio’r arian ac i ddweud wrthyn nhw am unrhyw newidiadau mewn gwybodaeth bersonol neu gyfeiriad cyn gynted ag y bo modd. Mae gwybodaeth bersonol yna’n cael ei ddefnyddio gan dwyllwyr.

Mae’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol a FIFA wedi cadarnhau bod y llythyrau yn rai ffug ac yn ddim i’w wneud â Cwpan y Byd FIFA yn 2018 neu Gemau Olympaidd 2016.

Dywedodd y Cynghorydd John Powell, aelod y cabinet dros safonau masnach: “Mae sgamwyr yn defnyddio unrhyw ddull posibl i geisio twyllo pobl gan gynnwys manteisio ar digwyddiadau byd-eang fel y Gemau Olympaidd neu Cwpan y Byd.

“Ond drwy godi ymwybyddiaeth o dwyll o’r fath a gyda chymorth trigolion i ledaenu’r gair, gallwn atal y twyllwyr. Ein neges i drigolion yw peidiwch â chael eich twyllo. Os nad ydych chi wedi ceisio loteri, does dim siawns eich bod chi wedi ennill.”