Mae cŵn Heddlu De Cymru wedi cael eu defnyddio i ddod o hyd i gorff dynes oedd ar goll yng Nghaerwysg.

Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am Gergana Prodonova, 38, o Bwlgaria ers iddi fynd ar goll wythnos yn ôl.

Mae Kostadin Kostov, 42, sydd hefyd o Bwlgaria wedi cael ei gyhuddo o lofruddio’r fam i dri o blant.

Dywedodd Heddlu Dyfnaint a Chernyw bod yr heddlu wedi dod o hyd i weddillion dynol wrth chwilio tir gwastraff yng Nghaerwysg ddoe.

Bydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal i gadarnhau pwy yw’r corff ond mae’r heddlu wedi cysylltu â theulu Gergana Prodonova ym Mwlgaria.