Mae pennaeth Asthma UK yn dweud bod gan Gymru’r cyfle perffaith i elwa o ymchwil asthma.
Yn ôl Kay Boycott galla’i buddsoddiad mewn ymchwil asthma gan Lywodraeth Cymru arwain at swyddi arbenigol mewn ymchwil feddygol a chyfrannu ar dwf economaidd.
Mae gan Gymru un o’r cyfraddau uchaf o asthma yn y byd gyda bron i 314,000 o bobl yn y wlad yn dioddef o’r clefyd.
Yn 2015, roedd 1302 o farwolaethau achoswyd gan asthma yng Nghymru a Lloegr – y mwyaf ers deng mlynedd.
‘Sefyllfa unigryw’
Meddai Kay Boycott ar wefan clickonwales heddiw bod Cymru mewn sefyllfa unigryw i wneud y darganfyddiad chwyldroadol nesa mewn ymchwil asthma.
Mae hi’n tynnu sylw at y gwaith arloesol a wnaed ym Mhrifysgol Caerdydd Dyna i ddarganfod un o achosion sylfaenol posibl y clefyd a bod Llywodraeth Cymru wedi profi ei fod wedi’i ymrwymo i ddenu diwydiannau technoleg a gwyddoniaeth i’r wlad a bod nifer o gwmnïau preifat eisoes wedi buddsoddi yma.
Buddsoddiad pellach
Ond mae hi hefyd yn galw am fuddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru a dywedodd bod Asthma UK wedi cynnal digwyddiad yn y Cynulliad Cymru yn ddiweddar i geisio cefnogaeth ar gyfer buddsoddiad cynyddol mewn ymchwil asthma.
Meddai Kay Boycott: “Oherwydd bod disgwyl i faint marchnad cyffuriau asthma gyrraedd $23bn erbyn 2023 wrth i boblogaeth y byd gynyddu o 300 i 400 miliwn erbyn canol y degawd nesaf, gall asthma fod yn gyfle ar gyfer twf mewn ymchwil feddygol a gyrrwr ar gyfer twf economaidd.
“A gall Gymru gyflawni gwell canlyniadau i bobl ag asthma tra hefyd yn achub ar y cyfle ysydd n y farchnad sylweddol ar gyfer economi Cymru.”