Mae gŵr sy’n wreiddiol o Gaerdydd yn ennill Tlws y Cerddor am yr eilwaith eleni.

Pianydd a chyfansoddwr ydy Gareth Olubunmi Hughes, ac enillodd y wobr hon yn Eisteddfod Bro Morgannwg bedair blynedd yn ôl.

Eleni, mae’n cipio’r wobr am gyfansoddi pedair cân i gyfeiliant piano i lais isel gan ddefnyddio geiriau Cymraeg gan fardd cyfoes.

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Jeffrey Howard ac Osian Llŷr Rowlands.

‘Barod i’w gyhoeddi’

“Pedair cerdd gan Llŷr Gwyn Lewis o’r gyfrol Storm ar Wyneb yr Haul i fariton-bas a gyflwynir yma a dyma gopi o safon broffesiynol sydd yn barod i’w gyhoeddi,” meddai Osian Llŷr Rowlands yn ei feirniadaeth.

“Yn glyfar iawn, mae’r pedair cân wedi eu cysylltu i greu cadwyn o ganeuon a dyma gyfansoddwr aeddfed iawn sydd yn gwybod yn union beth y mae am i’r perfformwyr ei gyflwyno i’r gynulleidfa,” ychwanegodd.

Diddordeb mewn chwedloniaeth

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Gareth Olubunmi Hughes wedi cwblhau camau olaf am ddoethuriaeth mewn Cyfansoddi Cyfoes ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’n dweud ei fod yn ymddiddori mewn chwedloniaeth Geltaidd ac, yn arbennig, Pedair Cainc y Mabinogi, chwedloniaeth Arthuraidd a cherddi Taliesin.

Dywed hefyd fod ganddo syniad i greu opera siambr newydd gyfoes, yn cyfuno lleisiau ac offerynnau ynghyd a synau a phrosesau electronig.