Eurig Salisbury yn cipio'r Fedal Ryddiaith, Llun: Yr Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016
Mae enillydd y Fedal Ryddiaith eleni yn fwy adnabyddus ym myd barddoniaeth, ond heddiw Eurig Salisbury sy’n ennill y fedal am nofel wedi’i seilio yn Aberystwyth.

“Nofel ddeheuig ydyw yn agor a chyfres o ddarluniau o Aberystwyth, gan hoelio sylw ac ennyn chwilfrydedd,” meddai un o’r beirniaid, Angharad Dafis.

Mae nofel Eurig Salisbury, sy’n ymateb i’r testun ‘Galw’, yn cael ei disgrifio fel “nofel dditectif neu nofel ddirgelwch” wrth iddi fynd â’r darllenydd ar daith artist o Gymraes i ddarganfod y gwir am ddiflaniad ei nith.

Mae ambell leoliad adnabyddus ynddi hefyd, gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol, Y Brifysgol a chyfeiria at gyflwr economi gorllewin Cymru.

‘Llwyr deilyngu’

Yn wreiddiol o Gaerdydd, cafodd Eurig Salisbury ei fagu ym mhentref Llangynog Sir Gâr. Ond mae bellach yn byw yn Aberystwyth gyda’i wraig Rhiannon a’u mab Llew, ac mae’n Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.

Ym myd barddoniaeth, mae wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2006, wedi cyhoeddi sawl cyfrol o farddoniaeth a bu’n Fardd Plant Cymru rhwng 2011 a 2013.

Ef yw Golygydd Cymraeg cylchgrawn Poetry Wales ac mae’n aelod o dîm llwyddiannus y Glêr ar raglen Talwrn y Beirdd.

Y beirniaid eleni oedd Angharad Dafis, Jane Aaron a Dafydd Morgan Lewis, ac mae eu beirniadaeth yn nodi:

“Yr ydym fel tri beirniad yn unfryd – mewn cystadleuaeth y byddai’r annwyl John Rowlands yn falch iawn ohoni – ei fod yn llwy deilyngu’r Fedal Ryddiaith.”