Mae’n rhaid i’r canwr Arfon Wyn anfon llythyr ffurfiol at Gofiadur Gorsedd y Beirdd os ydi o’n awyddus i adael y sefydliad a rhoi ei anrhydedd a’i wisg wen yn ôl.

Dyna ddatganiad y Prifardd Penri Tanad heddiw, yn dilyn sylwadau ar y wefan gymdeithasol ynglyn â phenderfyniad y cyfansoddwr a phrif leisydd grwp gwerin, Y Moniars, i adael yr Orsedd tros y ddadl o anrhydeddu aelodau carfan bêl-droed Cymru.

“Fedr Arfon Wyn ddim rhoi ei wisg wen ‘yn ôl’, oherwydd does ganddo fo ddim un,” meddai Penri Tanad. “Mae’r gwisgoedd i gyd yn cael eu cadw gan yr Orsedd…

“Ond, os ydi o am adael yr Orsedd, rhoi’r gorau i fod yn aelod, mae’n rhaid iddo fo ddweud hynny mewn llythyr ata’ i. Fedr o ddim gwneud hynny ar Facebook, siwr iawn.”

Saga Facebook

Mewn  sylw ar wefan Facebook nos Wener ddiwetha’, Gorffennaf 29, fe gyhoeddodd Arfon Wyn fel a ganlyn: “Fel protest yn erbyn y Steddfod yn gwrthod rhoi clod dyladwy i dîm pel-droed Cymru, gyda thristwch rwyf i, Arfon Wyn, yn ystyried rhoi fy anrhydedd o wisg wen yn ôl i’r Orsedd.

“Mae geni gywilydd o’u penderfyniad cibddall,” meddai. “Oes rhywun arall yn fodlon gneud yr un safiad.”

Er bod y neges hon wedi’i rhannu 440 o weithiau hyd at brynhawn heddiw, bod 31 o bobol wedi ymateb iddi, a 90 o bobol wedi ei ‘hoffi’, does neb arall wedi cyhoeddi ei fod am ildio’i anrhydedd yn yr un ffordd. A dydi’r Orsedd, trwy ei Chofiadur, ddim wedi derbyn llythyr ffurfiol gan yr un aelod.

Doedd Arfon Wyn ddim ar faes Y Fenni ddoe (dydd Llun) yn cymryd rhan yn seremonïau Gorsedd y Beirdd.

Mwy ar Facebook

Ddoe, wedyn, fe gyhoeddodd ar ei dudalen Facebook fod angen “Anrhydedd i’r tim cyfan, dim gwahaniaethu ar sail ieithyddol. Roedd angerdd y tim cyfan yn hollol wych… Gareth Bale ar dân dros Gymru cymaint â’r rhai sy’n siarad Cymraeg!

“Rhaid ein huno fel cenedl,” meddai Arfon Wyn ar Facebook eto, “siaradwyr Cymraeg a rhai di-Gymraeg fel ei gilydd… Fel arall does dim gobaith i Gymru i aros fel gwlad gryf gyda identiti ei hun yn y byd… Mae hyn jyst yn dangod be’ sydd o’i le efo steddfod sy lawer rhy ddosbarth canol ac elitaidd”.