Y bocsiwr Dai Dower (Llun o wefan Welsh boxers)
Mae un o’r bocswyr pwysau pryf mwyaf llwyddiannus o Gymru wedi marw heddiw yn 83 oed.

Yn wreiddiol o Abercynon, daeth Dai Dower yn bencampwr Prydeinig, Cymanwlad ac Ewropeaidd am focsio pwysau pryf cyn colli i’r bocsiwr Pascual Perez ym mhencampwriaeth y byd.

Cafodd ei ddewis i gynrychioli Prydain yn y Gemau Olympaidd yn 1952 cyn dechrau ar yrfa broffesiynol ym myd bocsio’r flwyddyn ddilynol.

Fe ymddeolodd Dai Dower yn 25 oed ar ôl ennill 34 o 37 gornest yn ystod gyrfa o bum mlynedd.

Bu’n rhaid iddo hefyd gymryd seibiant o focsio wrth ymuno â’r fyddin yn 1956 ar gyfer dwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol.

Ar ôl ymddeol, fe wnaeth ymgartrefu yn Bournemouth gan weithio fel athro addysg gorfforol.