Mae fideo newydd wedi cael ei greu gan elusen i blant, i helpu rhieni i siarad â’u plant am gam-drin rhywiol.

Bydd y cartŵn, sydd wedi’i greu gan gwmni Aardman, oedd y tu ôl i Morph, Wallace & Gromit a Shaun the Sheep, i’w weld mewn sinemâu ledled Cymru o heddiw ymlaen.

Hysbyseb 30 eiliad gan y NSPCC yw’r cartŵn a fydd yn defnyddio dinosoriaid i egluro’r ffyrdd o gadw’n ddiogel.

Mae’r fideo yn rhan o ymgyrch PANTS yr elusen i annog rhieni a phlant i siarad am gam-drin rhywiol.

Ers dechrau’r ymgyrch tair blynedd yn ôl, mae’r NSPCC yn dweud ei fod wedi arwain at gollfarnu un person dros droseddau rhyw yn erbyn plant.

Bydd y fideo yn cael ei ddangos mewn dros 400 o sinemâu yng ngwledydd Prydain cyn ffilmiau poblogaidd fel Finding Dory 2, BFG a The Secret Life of Pets, sydd wedi’u hanelu at blant rhwng pedair ac wyth oed.

Troseddau yn erbyn plant

Y llynedd, cafodd yr heddlu yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wybod am 10,757 o droseddau yn erbyn plant dan 10 oed, sy’n 29 y dydd.

“Rydym yn gwybod y bydd llawer o rieni yn ei chael yn anodd siarad â’u plant am gam-drin rhywiol ond mae’n hanfodol os ydyn am i’n plant ddeall sut i gadw’n ddiogel,” meddai pennaeth NSPCC Cymru, Des Mannion.

“Mae rhieni’n gwybod ei bod yn sgwrs bwysig i’w chael ond dydyn nhw ddim bob amser yn gwybod sut i ddechrau.

“Gobeithio bydd ein cartŵn yn eu helpu i fynd i’r afael â’r pwnc heb ddefnyddio geiriau brawychus na chrybwyll rhyw.”

Mae’r ymgyrch yn dysgu plant bod eu cyrff yn perthyn iddyn nhw, a bod ganddyn nhw’r hawl i ddweud na ac i ddweud wrth rywun os ydyn nhw’n poeni am rywbeth.

Mae modd gweld fersiwn llawn y cartŵn ‘Pantosaurus’ ar wefan NSPCC.