Bryn Eryr, fferm Oes Haearn yn Sain Ffagan, Llun: Sain Ffagan
Mae fferm Oes Haearn yn Sain Ffagan, Bryn Eryr, wedi agor i’r cyhoedd am y tro cyntaf.

Mae adeilad sy’n seiliedig ar safle archeolegol o gyfnod y Rhufeiniaid, yn ailgread o fferm fechan ger Llansadwrn yn nwyrain Ynys Môn.

Cafodd ei adeiladu gyda chymorth cannoedd o wirfoddolwyr, plant ysgol a phobl leol a fu’n codi’r waliau clai, helpu i ddehongli hanes y tai ac ailddarganfod bywydau’r preswylwyr gwreiddiol.

‘Cam arwyddocaol’  

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:  “Dylai ein gwirfoddolwyr, plant ysgol a phobl leol Trelái a Chaerau fod yn falch iawn o Bryn Eryr. Iddyn nhw a’n tîm adeiladu ni y mae’r diolch am allu agor yr atyniad newydd i’r cyhoedd yr haf hwn.

“Mae ail-greu’r adeilad hynod hwn o Ynys Môn, gan ddefnyddio tystiolaeth archeolegol, yn gam arwyddocaol yn y broses o ailddatblygu Sain Ffagan.

“Dros y pum mlynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn mynegi gwerth y project ailddatblygu i bobl Cymru a thu hwnt. Gyda Bryn Eryr nawr ar agor, mae gan ein hymwelwyr le i glywed hen straeon, dysgu sgiliau traddodiadol a rhannu profiadau gyda ffrindiau a theulu.”