(llun: Rui Vieira/PA)
Yn ôl adroddiad canolfan ymchwil blaenllaw, gall gyllideb Cymru ddioddef toriadau sylweddol ar ôl datganoli trethi os na fydd y gwahaniaeth yn y farchnad dai yng ngwledydd Prydain yn cael ei ystyried.

Mae adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn dadlau y gallai dulliau o roi grym i Lywodraeth Cymru godi trethi gael effaith andwyol ar y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu yng Nghymru.

Mae hyn oherwydd fod gwahaniaethau mawr yn amodau’r farchnad dai ledled gwledydd Prydain, ac mae’r rhain y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru.

 

Hepgor Llundain a de-ddwyrain Lloegr

Mae adroddiad y Ganolfan yn cynnig eithrio marchnad eiddo Llundain a de-ddwyrain Lloegr oddi wrth cyllid Cymru yn y dyfodol, i geisio osgoi’r “goblygiadau mwyaf eithafol” yn sgil datganoli’r Dreth Stamp i Gymru.

“Mae marchnad eiddo Llundain a de-ddwyrain Lloegr ar wahân i weddill y DU mewn nifer o ffyrdd, ac mae ffactorau rhyngwladol yn dylanwadu’n helaeth arno,” meddai Ed Poole o’r Ganolfan Llywodraethiant.

“Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddylanwad dros y ffactorau hyn. Ar ben hynny, mae natur unigryw’r farchnad eiddo yn Llundain wedi dod fwyfwy amlwg ers i’r DU bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Byddai eithrio refeniw Llundain a de-ddwyrain Lloegr wrth gyfrifo’r addasiad yn cymell Llywodraeth Cymru i dyfu’r sylfaen dreth yng Nghymru, ond ar sail targed mwy realistig a chyraeddadwy.”

Trafod trethi Cymru yn yr hydref

O fis Ebrill 2018, mae disgwyl i Gymru gael y pŵer i godi trethi am y tro cyntaf erioed.

Ar ôl cyflwyno’r trethi newydd i Gymru, bydd y Trysorlys yn gostwng grant bloc Cymru i ddigolledu Llywodraeth y DU am yr arian na fydd yn derbyn rhagor.

Mae disgwyl trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trysorlys yn yr hydref ynglyn a’r ffordd y bydd hyn yn cael ei wneud.

Roedd yr adroddiad hefyd wedi dweud y byddai pob un o’r pedair ffordd sydd wedi’u hystyried o addasu’r grant bloc yn ystod y trafodaethau ariannol diweddar yn yr Alban yn arwain at doriadau yng Nghymru ar ôl datganoli trethi.

Mae’r amcangyfrif negyddol yn dod o’r gwahaniaeth rhwng y farchnad dai yng Nghymru ag ardaloedd eraill y DU, sy’n golygu bod refeniw Treth Stamp yn tueddu i gynyddu’n llawer arafach yng Nghymru.

Mwy o arian i’r Alban

“Roedd y cytundeb a gafwyd ar ôl trafodaethau Fframwaith Ariannol yr Alban yn golygu bydd yr holl drethi sydd wedi’u datganoli i’r Alban yn cael eu trin yn gyson ac yn union yr un modd,” meddai Guto Ifan, o’r Ganolfan.

“Fodd bynnag, dyw hyn ddim yn cydnabod y lefelau amrywiol o dwf tebygol a’r peryglon i Gymru sy’n gysylltiedig â phob treth wahanol. Felly, dylai’r rhain gael eu hystyried ar wahân yn y trafodaethau fydd yn cael eu cynnal cyn bo hir rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trysorlys.”

Ychwanegodd fod y gwahaniaethau economaidd a’r lefelau amrywiol o bwerau sydd wedi’u datganoli rhwng y ddwy wlad, yn golygu na fydd yr hyn sy’n cael ei gytuno i’r Alban, bob amser, yn addas i Gymru.

“Bydd angen cynnwys y ffactorau hyn a’u hystyried wrth ddod i gau pen y mwdwl ar y cytundeb hollbwysig hwn ar gyfer Cymru.”