Fe gafodd dau gynnig i adeiladu datblygiad manwerthu yn Cross Hands a oedd i fod i gael eu hystyried gan bwyllgor cynllunio Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener (Gorffennaf 22) eu tynnu’n ôl gan swyddogion ar ddechrau’r cyfarfod er mwyn ystyried gwrthwynebiad hwyr a chyfraith achosion newydd.

Roedd disgwyl i’r pwyllgor cynllunio drafod cais gan Conygar Cross Hands Ltd am barc manwerthu ar dir yng ngorllewin Cross Hands a oedd eisoes wedi cael ei ohirio o gyfarfod blaenorol ar ôl ymyrraeth munud olaf gan y Co-op.

Mae cynlluniau Conygar yn ymwneud â’r safle lle roedd Sainsbury’s wedi bwriadu adeiladu archfarchnad. Mae caniatâd ar gyfer archfarchnad a gorsaf betrol yn bodoli eisoes.

Yn ogystal roedd y Pwyllgor i fod i ystyried cais gan Leekes am siop ochr yn ochr â siop Leekes yn Heol Stanllyd, Cross Hands, ond heriwyd y cais hwn gan Conygar.

Dywedodd Llinos Quelch, Pennaeth Cynllunio y Cyngor: “Daeth her hwyr i law yr wythnos hon gan Conygar mewn perthynas â chais Leekes ac a oedd diffygion o ran yr asesiad o safleoedd amgen. Mae’r her yn cyfeirio at y gyfraith achosion a gyhoeddwyd yn yr wythnos neu ddwy ddiwethaf.

“Mae angen cynnal asesiad pellach ac felly mae angen gohirio’r mater ac mae’r cais wedi cael ei dynnu’n ôl o’r agenda.

“Yn ogystal mae’r her hwyr wedi codi cwestiynau ynghylch cais Conygar ac asesiad y cwmni o safleoedd amgen ac felly nid yw’r awdurdod cynllunio lleol mewn sefyllfa heddiw i gadarnhau bod yr asesiad yn un cadarn a bydd angen ailystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd.

“Eto, mae angen gohirio trafod y mater ac mae’r cais wedi cael ei dynnu’n ôl o’r agenda ar gyfer heddiw.”