Yn ôl llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, gallai effaith Brexit ar y diwydiant amaeth yng Nghymru fod yn “andwyol” i’r wlad i gyd, yn sgil diffyg sicrwydd am gymorthdaliadau i’r sector.

Byddai unrhyw ostyngiad yn yr arian y mae amaethwyr yn ei gael yn golygu bod carfan fawr o bobol yn cael eu heffeithio hefyd, yn ôl Glyn Roberts.

Daw ei sylwadau ar ôl i Weinidog Amaeth y DU ddweud wrth y BBC, nad oedd yn gallu sicrhau y byddai’r diwydiant amaeth yn cael yr un faint o arian ag y mae’n ei gael ar hyn o bryd, ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd George Eustice, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), fod yn rhaid i’r Llywodraeth newydd “drafod” cyn gallu gwarantu unrhyw arian.

‘Ystyried yn ofalus’ – DEFRA

“Mae bellach gennym gyfle i sicrhau bod ein holl bolisïau yn cyflawni dros Brydain ac i dyfu ein diwydiant bwyd a ffermio, sydd gyda’r gorau yn y byd,” meddai llefarydd ar ran DEFRA.

“Mae’n fusnes fel arfer i ffermwyr a fydd yn parhau i gael cymorthdaliadau. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn glir bod angen i hyn gael ei ystyried yn ofalus ac mae’n edrych ymlaen at weithio gyda’r diwydiant a’r cyhoedd i ddatblygu cynigion newydd i gefnogi ein diwydiant amaeth wrth i ni adael yr UE.”

‘Addewidion gwag’

Dywedodd Glyn Roberts, llywydd UAC, ei fod yn “siomedig” a’i fod hefyd yn rhagweld hyn yn digwydd ar ôl i Brydain bleidleisio dros Brexit union fis yn ôl.

“Roeddwn i’n gweld y peryg yma o ddod allan o Ewrop, er bod y rhai oedd eisiau mynd allan yn dweud y byddwn ni’n arbed pris o fynd allan a rhoi mwy o bres i’r sector amaeth,” meddai.

“Rŵan bod y penderfyniad wedi cael ei wneud, addewidion gwag ydyn nhw erbyn heddiw.”

Dywedodd ei bod yn “hawdd iawn” i arweinwyr yr ymgyrch Gadael cyn y refferendwm beidio â chymryd cyfrifoldeb dros yr addewidion hynny, gan nad oedd ganddyn nhw “unrhyw fath o fandad.”

Banciau’n ‘pryderu’

Rhybuddiodd hefyd fod banciau yn pryderu dros ddiwydiannau eraill yn sgil y posibilrwydd o leihau’r arian mae’r diwydiant amaeth yn ei gael.

“Os oes llai o bres yn mynd i ddod i amaethyddiaeth, mae hwnna’n mynd i gael effaith andwyol iawn ar bobol eraill sy’n dibynnu ar amaeth,” ychwanegodd.

“Rydan ni wedi cyfarfod â’r banciau yn ystod y diwrnod diwethaf ac maen nhw wedi dweud eu bod yn fwy pryderus am y diwydiannau sy’n dibynnu ar amaeth ac ar amaeth ei hun.

“Mae hynny i mi yn dangos yn glir iawn pwysigrwydd amaeth i wead cefn gwlad.”

Cyfraniad ffermwyr i’r economi

Yn ôl Glyn Roberts, mae pob ffermwr uchel dir yn cyfrannu hyd at £100,000 i economi ei gymuned leol ac yn ehangach.

Dywedodd hefyd fod “ffermydd mwy dwys”, fel rhai sy’n godro, yn cyfrannu hyd at £250,000 i economi Cymru, gan rybuddio am yr effaith ‘domino’ os bydd llai o arian yn dod i gefn gwlad.

“Mae’n bwysig bod pawb yn sylweddoli mor bwysig yw amaeth (i bawb), dim jyst i’r ffermwr.”