Mae Heddlu’r Gogledd wedi arestio dau ddyn fel rhan o’u hymchwiliad i farwolaeth amheus dynes ym Mhenygroes ger Caernarfon fore dydd Llun.

Cafwyd hyd i gorff y ddynes mewn eiddo yn Heol Llwyndu ym Mhenygroes tua 10.45yb bore dydd Llun, 18 Gorffennaf.

Nid yw’r ddynes wedi cael ei hadnabod yn swyddogol hyd yn hyn ond mae hi wedi cael ei hadnabod yn lleol fel Emma Louise Williams.

Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal heddiw ac mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.

Mae’r ddau ddyn yn cael eu holi yng ngorsaf yr heddlu yng Nghaernarfon.

Mae ditectifs yn holi llygad-dystion ac yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth cyn gynted â phosib.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu a welodd unrhyw un yn ymddwyn yn amheus ar y safle gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod U105426.