Fe fydd 41fed Ras yr Wyddfa yn cael ei chynnal yfory ac mae’r trefnwyr yn gofyn i’r cystadleuwyr gymryd gofal, a hithau yn gado glaw.

Eleni fe fydd 650 o redwyr yn cymryd rhan yn y ras 10 milltir o hyd i fyny a lawr mynydd uchaf Cymru.

Fe fydd rhai o redwyr gorau Prydain yn cystadlu i gyrraedd y copa 1085 metr uwchlaw’r môr, gyda thimau o Gymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a’r Eidal yn cymryd rhan.

Mae’r ras yn cael ei hystyried yn un o’r rhai caletaf o ran rhedeg mynydd.

Cyn y ras eleni hefyd bydd Cwpan yr Wyddfa – ras i fyny’n unig a fydd drwy wahoddiad yn cael ei chynnal. Bydd yn dechrau am 10.30am ar ddiwrnod y ras, gyda rhedwyr arbennig iawn yn cystadlu.

Dywedodd y trefnydd Stephen Edwards:  “Fel bob tro, mi oedd digonedd eisio cystadlu. A byth ers yr amser cau mi ydw i wedi cael sawl un yn gofyn am le i redeg er bod y ras yn llawn. Ychydig feddyliwyd yn 1976 pan gynhaliwyd y ras gynta’, faint o ddigwyddiad fyddai erbyn heddiw. Mae’r Wyddfa bellach yn un o’r mynyddoedd mwya’ poblogaidd ym Mhrydain a dyna ydy peth o’r atyniad i rai rhedwyr – cael y teimlad fod yna wylwyr a chefnogwyr ar hyd y llwybr i’r top ac i lawr wedyn..

Yn ôl Stephen Edwards, “Dylai fod yn ras wych eto gyda chystadleuwyr brwd iawn. Bydd y ras ar S4C ar y Sul, ac ar ddiwrnod y ras ar ôl chwech y noson honno bydd diwedd y ras ar Facebook Live.”

Triawd

Ar ôl ennill dair gwaith yn 2002, 2003 a 2005 bydd Tim Davies yn cystadlu eto eleni ac yn arwain tîm Cymru cryf. Hefyd yn y tîm mae Matthew Roberts, Russell Bentley a’r rhedwr lleol Gareth Hughes.

Ar ôl brwydr neilltuol y llynedd bydd y trydydd y pryd hwnnw, Ben Mounsey o Loegr yn ôl i weld all o ennill yn 2016. Mae gan Loegr dîm da iawn gyda Ben Mounsey bydd Chris Smith, Rob Hope a Chris Farrell.

Yn dilyn buddugoliaeth Emanuele Manzi y llynedd bydd gan yr Eidal dri rhedwr newydd Marco Leoni, Luca Cognate a Gianpietro Bottà. Bydd Nicola Pedergnana yn cystadlu yn ras y merched.

Merched Iwerddon

Merched Iwerddon sydd wedi bod yn flaenaf yn y ras dros y tair blynedd ddiwethaf. Ar ôl buddugoliaeth hanesyddol Sarah Mulligan yn 2013, wedyn Sarah McCormack yn ennill yn 2014 a 2015. Ac mae Sarah sy’n 29 oed, yn ei hôl eto eleni i geisio cael tair buddugoliaeth yn olynol. Hefyd yn nhîm Iwerddon bydd Bethany Murray.

Bydd tîm Iwerddon yn cael eu herio gan Loegr, gyda Lindsey Brindle yr ail y llynedd yn eu plith. Bydd Lou Roberts yn y tîm. Hi oedd enillydd Ras y Gwyll eleni. Y drydedd yn y tîm ydyw Heidi Dent.

Mae tîm merched Cymru yn un go newydd gyda Bronwen Jenkinson a Sian Williams yn ymuno â Katie Beecher, y bumed yn ras y llynedd. Tîm Gogledd Iwerddon ydyw Shileen O’Kane, Hazel McLaughlin a Paulette Thompson.

Cwpan yr Wyddfa

Fel y soniwyd bydd rhai rhedwyr neilltuol iawn yn cystadlu am Gwpan yr Wyddfa yn y bore. Bydd enillydd y llynedd Max Nicholls yn dychwelyd a bydd eraill yno yn defnyddio’r ras fel hyfforddiant ar gyfer Treialon Rasys Mynydd Prydain cyn Pencampwriaeth Rasio Mynydd y Byd yn yr Eidal fis Awst. Bydd trydydd yn ras y llynedd yno Martin Cox a hefyd rhedwyr rhyngwladol Prydain Tom Adams a Jacob Adkin.

Mae Stephen Edwards yn edrych ymlaen at yr achlysur sydd wedi tyfu o amgylch y ras, fel yr eglurodd: “Corff gwirfoddol sy’n trefnu pob dim, ac mae oriau ac oriau o waith paratoi i’r digwyddiad. Mae sawl busnes lleol yn ymwneud â’r achlysur a bydd miloedd yn dod draw i weld y ras. Eleni bydd rasys ‘Hwyl i Bawb’ i’r plant bach am 11 o’r gloch fore’r ras a bydd y rasys plant yn cychwyn ar ôl y ras fawr am ddau o’r gloch y pnawn.”