Cafodd heddlu arfog eu galw i bentref yn y Cymoedd ddoe ar ôl derbyn adroddiadau fod rhywun wedi cael ei fygwth â machete.

Cafodd yr heddlu eu galw i Pentre yn y Rhondda  toc wedi 8yh nos Fercher. Cafodd dyn 40 mlwydd oed ei arestio ar amheuaeth o fygwth i ladd.

Cafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad ac meddai’r heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i’r machete yn ddiweddarach.

Mae’r dyn yn parhau i gael ei gadw yn y ddalfa gan yr heddlu wrth i’r ymchwiliad barhau.