Y gwaith yn dechrau ar Gampws Dysgu Y Bala
Mae disgwyl i’r gwaith o adeiladu Campws Dysgu ar gyfer disgyblion 3 – 19 oed yn ardal Y Bala ddechrau yn ystod yr haf, gyda’r campws yn agor yn swyddogol erbyn Medi 2018.

Ac fe fu disgyblion o ysgolion Y Bala a chynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd ar y safle heddiw i dorri’r dywarchen gyntaf.

Mae’r cynllun wedi derbyn buddsoddiad gwerth £10 miliwn gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Mae hyn yn golygu cau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn i greu campws newydd ar safle Ysgol y Berwyn gyda’r bwriad o warchod dyfodol darpariaeth ôl-16 ac ysgolion gwledig y dalgylch.

‘Amgylchedd ddysgu o safon’

“Mae’n adeg gyffrous iawn i ardal Penllyn gyda’r cynllun ad-drefnu yn nhref y Bala fydd yn sicrhau sefydlu Campws gydag adnoddau ac amgylchedd ddysgu o safon yr unfed ganrif ar hugain,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas.

Esboniodd y Cynghorydd Dafydd Meurig mae cwmni lleol, Wynne Construction, fydd yn gwneud y gwaith.

“Maen nhw hefyd yn rhannu eu hymrwymiad i gadw cymaint o fudd prosiectau o’r fath yn yr economi leol trwy gyflogi cymaint o gontractwyr a staff lleol ar eu prosiectau a bo modd a chefnogi busnesu lleol yn eu cadwyni cyflenwi,” meddai Dafydd Meurig.

Mae disgwyl i’r gwaith o osod cae synthetig 3G ar Faes Tegid ddechrau yn yr haf hefyd, gyda’r cae yn agor yn yr hydref.