Gareth Pritchard a Richard Debicki, Dirprwy Brif Gwnstabl a Phrif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, yn cyfarfod Iolnanda Viegas o Gyngor Portiwgeaidd Prydain ac Iwerddon, a Jolanta Atkinson, cadeirydd Cymdeithas Eingl-Pwylaidd Caer a Gogledd Cymru (llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio ar i unrhyw aelodau o leiafrifoedd ethnig sydd wedi dioddef troseddau casineb gysylltu â nhw ar unwaith.

Daw eu hapêl yn sgil pryder am y cynnydd sydd wedi digwydd ledled Prydain mewn troseddau o’r fath ers y bleidlais Brexit bythefnos yn ôl.

“Ni bydd heddlu Gogledd Cymru yn goddef troseddau casineb,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki.

“Hoffwn annog unrhyw un sy’n dioddef unrhyw fath o gamdriniaeth neu niwed sy’n gysylltiedig â chasineb gysylltu â ni. Mae angen i bobl wybod y byddwn yn gweithredu’r gyfraith ac yn delio’n llym ag unrhyw droseddwyr.”

Cyfarfod cynrychiolwyr

Yn sgil ofnau ymhlith lleiafrifoedd ethnig y gogledd, fe fu uwch swyddogion yr heddlu’n cyfarfod cynrychiolwyr o gymunedau Pwylaidd a Phortiwgeaidd yr wythnos yma i wrando ar eu pryderon.

“Mae Heddlu Gogledd Cymru’n sylweddoli bod cynnydd wedi bod mewn tensiwn ac mae’n bwysig ein bod yn cynnal trafodaethau’n gynnar ac yn rheolaidd gyda’r cynrychiolwyr er mwyn tawelu eu meddwl a gadael i bobl wybod ein bod ni yma i amddiffyn pob cymuned,” meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Gareth Pritchard.

“Beth bynnag yw barn pobl am y refferendwm, fyddwn ni ddim yn gadael i’r canlyniad gael ei ddefnyddio fel esgus i gyflawni troseddau casineb.”