efnogwyr Cymru yn dathlu ar ol buddugoliaeth yn erbyn Rwsia yn Toulouse nos Lun. Llun: Martin Rickett/PA
Mae miloedd o gefnogwyr pêl-droed Cymru wedi bod yn heidio i Paris drwy’r dydd ddoe.

Maen nhw wedi bod yn cyrraedd yno ar drenau Eurostar i’r Gare du Nord, ac mae pob awyren o Gaerdydd ac o Belfast wedi bod yn llawn.

Fe fydd Cymru’n wynebu Gogledd Iwerddon yn rownd 16 olaf Pencampwriaethau Ewrop yn stadiwm Parc des Prince, cae Paris Saint-Germain heddiw.

Ar ôl y buddugoliaethau yn erbyn Slofacia a Rwsia, enillodd Cymru ei lle yn yr 16 olaf ar frig Grŵp B,  a llwyddodd Gogledd Iwerddon fel un o’r goreuon o’r timau yn nhrydydd safle eu grŵp,

Os bydd Cymru’n ennill, fe fydd yn mynd ymlaen i herio naill ai Hwngari neu Wlad Belg yn Lille ddydd Gwener.

Fe fydd y gic gyntaf am 6pm amser lleol, sef 5pm yn ein hamser ni, ac mae’r gêm i’w gweld yn fyw ar S4C mewn rhaglen sy’n cychwyn am 4.15pm.