Cefnogwyr Cymru'n ysu am gael gweld y '#WALRWS'
Mae cefnogwyr tîm pêl-droed Cymru wedi dweud eu bod nhw’n barod i ymgyrchu i sicrhau mai Cymru fydd y ‘tîm cartref’ pan fyddan nhw’n herio Rwsia yn Ewro 2016 nos Lun – a hynny er mwyn defnyddio hashnod arbennig ar Twitter.

Pe baen nhw’n llwyddo, hashnod y gêm fydd #WALRUS, gan ddefnyddio’r traddodiad o dalfyrru enwau’r timau.

Ar hyn o bryd, Rwsia yw’r ‘tîm cartref’ sy’n golygu mai eu henw nhw fydd gyntaf yn yr hashnod.

Mae cefnogwyr wedi bod yn datgan eu siom ar wefannau cymdeithasol, tra bod criw o Gymry sydd wedi teithio i Toulouse wedi addo ymgyrchu i newid y sefyllfa.

Dywedodd un cefnogwr y byddai’n anfon neges ar Twitter at UEFA, tra bod un arall wedi dweud y byddai’n defnyddio’r hashnod answyddogol #WALRUS beth bynnag.