Ffoaduriaid ar ffin Macedonia (Llun: Arbeitsbesuch Mazedonien CCA2.0)
I fynd i’r afael â’r argyfwng ffoaduriaid, mae elusen Oxfam wedi lansio ei ymgyrch dyngarol mwyaf yn ei hanes.

Mae’r ymgyrch, Sefyll Fel Un, yn canolbwyntio ar roi pwysau ar lywodraethau’r byd i wneud mwy i helpu teuluoedd sydd ar ffo, o wledydd fel Syria, Irac, Yemen a Nigeria.

Yn ôl yr elusen, dydy gwledydd mwyaf cyfoethog y byd ddim yn gwneud digon i daclo’r argyfwng.

Ac er bod Oxfam Cymru wedi bod yn galw am dderbyn ei chyfran o 724 o ffoaduriaid i Gymru erbyn diwedd y flwyddyn, hyd at fis Mawrth 2016, roedd y ffigurau swyddogol yn dangos mai dim ond 78 sydd wedi cyrraedd y wlad hyn yn hyn.

“Rhai awdurdodau yn fwy parod”

 

Mae 22 o gynghorau sir Cymru wedi dweud eu bod yn barod i dderbyn ffoaduriaid, ac mae angen sicrhau bod yr awdurdodau i gyd yn tynnu eu pwysau, yn ôl yr elusen.

“Yn amlwg nid yw’n mynd i fod yn bosib i bob awdurdod lleol groesawu yn union yr un faint o ffoaduriaid. Bydd rhai awdurdodau yn fwy parod nac eraill, ardaloedd fel Caerdydd a Wrecsam sydd wedi arfer croesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches,” meddai Casia Wiliam o Oxfam Cymru.

“Fodd bynnag, rydym wedi gweld bod modd i awdurdodau sydd heb lawer o brofiad yn ail-gartrefu ffoaduriaid, fel Ceredigion, fwrw ati i sicrhau bod y gwasanaethau perthnasol mewn lle a chydlynu yn effeithiol er mwyn rhoi croeso i bobl, a sicrhau bod y ddarpariaeth bwrpasol mewn lle erbyn iddyn nhw gyrraedd.”

Mae’r elusen yn annog awdurdodau sydd â llai o brofiad yn ail-gartrefu ffoaduriaid i siarad ag awdurdodau eraill.

“Os yw’r ewyllys yno, yna mae’n bosib,” ychwanega Casia Wiliam.

Bydd dwy gynhadledd fawr ar yr argyfwng yn digwydd yn Efrog Newydd ym mis Medi, ac mae Oxfam wedi lansio deiseb fel rhan o’i hymgyrch, yn galw am fwy  o weithredu gan wledydd cyfoethog y byd.