Cofeb i'r pysgotwr a'r darlledwr yng Ngheredigion
Mae cofeb sydd wedi’i gosod i Moc Morgan yn cael ei dadorchuddio ddydd Sul.

Bu farw’r darlledwr a’r pysgotwr fis Mai’r llynedd.

Mae carreg goffa wedi’i rhoi yn ei ardal enedigol, sef ardal Llynnoedd Teifi ger Ffair Rhos yng Ngheredigion.

Roedd yn arbenigwr ar gawio plu pysgota, ac roedd yn awdur pysgota yn ogystal â bod yn gyflwynydd rhaglenni S4C am fywyd yng nghefn gwlad, gan gynnwys y gyfres ‘Byd Moc’.