Llinell biced ger Amgueddfa Lechi Llanberis
Mae’r anghydfod dros gyflogau rhwng Amgueddfa Cymru a’i gweithwyr gam yn nes at gael ei ddatrys, ar ôl i’r sefydliad “wella” ei chynnig i’r undebau.

Mae undeb y PCS yn dal i drafod y cynnig, a does dim cadarnhad y bydd yn derbyn yr hyn sydd ar y bwrdd gan Amgueddfa Cymru eto.

Yn ôl yr Amgueddfa, mae mwy o arian gan Lywodraeth Cymru wedi’i galluogi i wella’i chynnig mewn trafodaethau â chynrychiolwyr y PCS, sy’n cynnwys codiad cyflog o 4% i staff sydd ar y graddau isaf.

Mae cymhorthdal gwerth pum mlynedd o daliadau premiwm – cynnen y ddadl – hefyd yn y fargen, yn ogystal â diogelwch i bensiynau am bum mlynedd a dim diswyddiadau gorfodol tan fis Ebrill 2017.

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid i staff fod yn derbyn Taliadau Premiwm erbyn 30 Mehefin 2016.

Croeso gofalus

Dywedodd undeb y PCS, sydd wedi bod yn cynrychioli’r gweithwyr mewn trafodaethau â’r Amgueddfa, ei fod yn “ystyried y manylion ar hyn o bryd”.

“Rydym yn croesawu’r ffaith fod y cyflogwr wedi cyflwyno cynnig newydd ac rydym yn ystyried y manylion ac yn siarad â’n haelodau ar hyn o bryd,” meddai llefarydd.

“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau cytundeb sefydlog i’r anghydfod, sy’n trin ein haelodau yn deg a gyda’r parch maen nhw’n ei haeddu.”

Cefndir

Mae’r gweithwyr wedi bod yn anhapus â newidiadau i leihau eu taliadau premiwm am weithio ar benwythnosau ac wedi bod ar streic amhenodol ers 28 Ebrill.

Bu gweithwyr mewn amgueddfeydd ledled y wlad yn streicio ar rai penwythnosau ers dwy flynedd hefyd.

Ers dechrau’r streic, mae llinellau piced wedi cael eu cynnal ger chwech o’r saith amgueddfa yng Nghymru yn ddyddiol, gan orfodi i rai gau rhannau o’u hamgueddfeydd.