Super Furry Animals
Mae ‘Bing Bong’ gan y Super Furry Animals wedi dod i frig hoff ganeuon Ewro 2016 y cylchgrawn NME.

Yn ôl yr adolygiad, mae’r gân answyddogol yn “boncyrs… dirmygus a rhywsut yn wladgarol ar yr un pryd”.

Yn bedwerydd ar y rhestr o 13 o ganeuon mae ‘Together Stronger (C’mon Wales)’ gan y Manic Street Preachers, ac mae honno’n cael ei disgrifio fel cân “obeithiol, herfeiddiol ac anthem swyddogol â llinynnau” sy’n “llawn hanes pêl-droed Cymru”.

Ymhlith y caneuon eraill ar y rhestr mae caneuon o Loegr, yr Eidal, yr Almaen, Gwlad Belg, Sweden, Portiwgal, Ffrainc, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon a’r Alban.

Y rhestr gyflawn

1. SFA – ‘Bing Bong’ (Cymru)

2. Four Lions – ‘We Are England’ (Lloegr)

3. Giogiga – ‘Italia’ (Yr Eidal)

4. Manic Street Preachers – ‘Together Stronger (C’mon Wales)’ (Cymru)

5. Cuba Libre – ‘Arriba Deutschland’ (Yr Almaen)

6. Seo Linn – ‘The Irish Roar’ (Gweriniaeth Iwerddon)

7. David Guetta gyda Zara Larsson – ‘This One’s for You’ (Ewrop)

8. London Green and White Army – ‘Making Our Way to Paris’ (Gogledd Iwerddon)

9. Skip the Use – ‘I Was Made for Lovin’ You’ (Ffrainc)

10. Pedro Abrunhosa – ‘#1de11milhões’ (Portiwgal)

11. Frej Larsson feat. Joy – ‘Mitt Team’ (Sweden)

12. Dimitri Vegas, Like Mike & Steve Aoki vs Ummet Ozcan – ‘Melody’ (Gwlad Belg)

13. Paddy Power’s Euro Anthem (Yr Alban)