Amgueddfa Cymru (Llun: Ham - CCA2.0)
Mae gobaith y bydd anghydfod sydd wedi para dros ddwy flynedd rhwng rheolwyr Amgueddfa Cymru a’r gweithwyr yn dod i ben, ar ôl i’r Amgueddfa “wella” ei chynnig i’r undebau.

Mae gweithwyr yr Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) wedi bod ar streic amhenodol ers 28 Ebrill a hynny am eu bod yn anhapus â’r newidiadau i’w tâl dros benwythnosau.

Cafodd y cynnig ei roi ar y bwrdd mewn cyfarfod ddydd Mercher rhwng yr undeb a’r Amgueddfa, ac mae’r ddwy ochr bellach yn ystyried eu sefyllfa ymhellach.

Dywedodd llefarydd ar ran PCS wrth golwg360 fod y trafodaethau wedi bod yn rhai “adeiladol”, a’u bod yn agosach at “ddatrys” yr anghydfod.

Ond, ychwanegodd fod hynny’n “amodol i ystyriaeth” cynrychiolwyr PCS sydd yn ynghlwm â’r trafodaethau.

Rali yn dal i ddigwydd

Fe gadarnhaodd hefyd,  y bydd y rali oedd wedi’i threfnu heddiw am 12yp y tu allan i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn dal i ddigwydd.

Ers dechrau’r streic, mae llinellau piced wedi cael eu cynnal ger chwech o’r saith amgueddfa yng Nghymru yn ddyddiol, gan orfodi i rai gau rhannau o’u hamgueddfeydd.

Mae cyrff eraill wedi estyn eu cefnogaeth i’r streicwyr, gan gynnwys yr undeb athrawon, UCAC, a benderfynodd foicotio cynhadledd addysg y Llywodraeth nos Lun, am ei bod yn cael ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.