Cyngor Sir Gâr
Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gâr wedi gorfod gohirio eu hystyriaeth i gynlluniau i ddatblygu parc manwerthu yn Cross Hands oherwydd ymyrraeth gan gynrychiolwyr o gwmni’r Co-op.

Roedd disgwyl i’r pwyllgor drafod cais gan gwmni Conygar Cross Hands Cyfyngedig heddiw i adeiladu parc manwerthu yn Cross Hands.

Mae caniatâd eisoes yn bodoli ar y safle i ddatblygu archfarchnad a gorsaf betrol, ac roedd cwmni Sainsbury’s wedi mynegi diddordeb.

Ond, dywedodd Pennaeth Cynllunio’r Cyngor, Llinos Quelch, fod cais wedi dod gan gwmni’r Co-op am ddatblygiad pellach yn Cross Hands, a hynny ar ôl i’r adroddiad gael ei lunio.

Her gyfreithiol

 

Fe dderbyniodd y Cyngor lythyr gan ymgynghorwyr Co-op yn dweud eu bod yn gwrthwynebu pe byddai’r trafodaethau am y parc manwerthu yn mynd rhagddo heb ystyried y wybodaeth maen nhw’n ei gyflwyno.

Dywedodd Llinos Quelch y byddai’r wybodaeth wedi’i gynnwys gan y Cyngor pe byddai wedi cyrraedd cyn i’r adroddiad gael ei gwblhau.

Ond, fe rybuddiodd y cwmni y bydden nhw’n cyflwyno her gyfreithiol pe byddai’r trafodaethau wedi parhau, felly fe fu’n rhaid i’r Cyngor ohirio’r cais heddiw.

‘Cyrraedd ar y funud olaf’

“Mae’n siomedig fod yr ohebiaeth hon wedi cyrraedd ar y funud olaf gan godi’r posibilrwydd o her gyfreithiol pan oedd y datblygiad pwysig hwn yn Cross Hands yn barod i’w gyflwyno i’r pwyllgor,” meddai’r Cynghorydd Alun Lenny.

“Rydym yn disgwyl y bydd y cais hwn yn cael ei ailgyflwyno ger ein bron ymhen yr ychydig wythnosau nesaf,” meddai.