Neil Kinnock
Fe allai’r rheiny sydd am weld gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ennill y refferendwm oherwydd fod cyn lleied yn troi allan i bleidleisio.

Dyna rybudd y cyn-arweinydd Llafur, Neil Kinnock, heddiw, wrth iddo hefyd ymosod ar ffigyrau amlwg yr ymgyrch ‘Brexit’ tros adael Ewrop.

– Fe ddywedodd fod yr honiadau y byddai arian sydd ar hyn o bryd yn cael ei wario ar fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, gael ei wario ar y Gwasanaeth Iechyd ac ar dorri treth, yn dwyllodrus;

– Fe gwestiynodd i ba raddau y mae cefnogwyr yr ymgyrch ‘Leave’ – yn benodol Boris Johnson a Michael Gove – mewn gwirionedd yn ymladd cornel y dyn cyffredin;

– Ac fe fenthycodd un o ddywediadau enwog Margaret Thatcher i wneud ei bwynt mewn rali yn Llundain.

Mae ymgyrchwyr Brexit, meddai, yn canolbwyntio ar ymgyrch negyddol yn ymwneud â mewnfudo, gan anwybyddu’r rhinweddau o fod yn perthyn i Ewrop.

“Addewidion gwag”

“Y prif reswm pam fod yr addewidion hyn yn rhai gwag, yw oherwydd y bobol sy’n eu gwneud nhw. Edrychwch pwy sy’n gwneud yr addewidion hyn – Boris Johnson, Gove, Grayling, Duncan Smith, Fox a Farage,” meddai’r Arglwydd Kinnock.

“Ydyn nhw erioed, yn eu bywydau cyhoeddus, wedi arddel polisiau sy’n rhoi blaenoriaeth i wariant ar y gymuned a’i hanghenion?

“Ydyn nhw erioed wedi rhoi blaenoriaeth i wariant cyhoeddus ar wasanaethau a buddsoddiad? Ydyn nhw erioed wedi bod yn ffrindiau i’r dosbarth gweithiol, yn amddiffyn eu hamgylchiadau gwaith? Ydyn nhw erioed wedi bod yn barod i ymrwymo i ymladd tlodi ac anfantais?

“Os ga’ i fenthyg un o ddywediadau Margaret Thather yn hyn o beth… na, na, na.”