Iain Duncan-Smith
Fe fydd Iain Duncan-Smith yn y gogledd heddiw i ddadlau fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn hwb i ddemocratiaeth yng Nghymru.

Bydd yn ymweld â harbwr Conwy, Llandudno a Bae Colwyn, gyda rali gyhoeddus yn cael ei chynnal yn Venue Cymru Llandudno heno.

Mae Iain Duncan-Smith yn dadlau fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn galluogi cymunedau i adennill grymoedd.

“O fewn tair wythnos fe fydd gan bobl Cymru un cyfle mewn cenhedlaeth i bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd a chymryd rheolaeth yn ôl,” meddai.

Mae’r Aelod Seneddol yn un o hoelion wyth yr ymgyrch swyddogol dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Fe ymddiswyddodd yn ddiweddar o gabinet  David Cameron, yn dilyn ffrae ynghylch toriadau i’r Wladwriaeth Les.

Wrth drafod y refferendwm, dywed Iain Duncan-Smith:  “Mae’n gyfle i fynnu pŵer yn ôl yn nwylo cymunedau, ac i ddwylo gwleidyddion yr ydym yn eu dewis ac y gallwn eu taflu allan os ydym eisiau newid.

“Mae gormod o’n deddfau yn cael eu gwneud gan wleidyddion anetholedig o wledydd eraill, yn hytrach na gwleidyddion o Gymru, yn y Senedd Gymreig.

“Mae’r Undeb Ewropeaidd yn brosiect gwleidyddol ac os ydym yn aros, fe fydd y sefyllfa yn gwaethygu. Yn hytrach, fe ddylem gymryd trywydd gwahanol, a  rhoi hwb i ddemocratiaeth ym Mhrydain, a chymryd rheolaeth yn ôl tros ein materion ein hunain.”