Llaeth - yn dda mewn tywydd poeth (Stefan Kuhn CCA3.0)
Mae llaeth a diodydd arbenigol gystal a gwell na dŵr yn ystod tywydd poeth.

Dyna gasgliad adroddiad ar y cyd rhwng tair prifysgol – gan gynnwys Prifysgol Bangor – ac mae’n galw am greu rhestr o’r diodydd gorau o ran cadw hylif yn y corff.

Yn groes i’r gred gyffredinol, doedd hyd yn oed diodydd fel te a choffi ddim yn achosi problemau diffyg hylif, o’u hyfed yn gymedrol.

“Mae llawer o bobol yn credu bod yfed pethau felt e a choffi’n achosi iddyn nhw ddadhydradu, ond fe wnaethon ni ddarganfod nad yw yfed symiau arferol o’r diodydd hynny’n arwain at golli mwy o hylifau na dŵr,” meddai’r Athro Neil Walsh o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Bangor.

Yr arbrofion

Roedd gwyddonwyr o’r tair prifysgol wedi arbrofi gydag 13 o ddiodydd, gan gynnwys cola, lager, te, coffi, llaeth a diodydd ailhydradu arbennig.

Wrth roi sgôr BHI (Beverage Hydration Index) i bob diodydd, fe welodd y gwyddonwyr mai diodydd ailhydradu arbenigol oedd yn gwneud orau gyda llaeth o bob math yn dod nesa’.

Roedd y rheiny, a sudd oren, yn cael sgôr o fwy nag 1.5 BHI tra oedd dŵr pefriog a llonydd ar tuag 1.

Maen nhw bellach yn galw am greu rhestr swyddogol o ddiodydd er mwyn helpu pobol i ddeall pa hylifau sydd orau i gadw hylif yn y corff – ffactor hanfodol mewn tywydd poeth iawn.