Mark Drakeford yw Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Cymru.
Mae “angen brys” am eglurder ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i ad-drefnu’r 22 o gynghorau sir yn y wlad, yn ôl y corff sy’n eu cynrychioli.

Yn ôl adroddiad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae “heriau mawr” yn wynebu cynghorau sir, gydag “ansicrwydd” yn ychwanegu at yr heriau hynny.

Mae disgwyl i arweinwyr pob cyngor sir yng Nghymru gyfarfod heddiw i drafod yr adroddiad a “phwyso a mesur” y sefyllfa erbyn hyn.

Yn nhymor diwethaf y Cynulliad, fe wnaeth y cyn-Weinidog Llywodraeth Leol, Leighton Andrews, gyflwyno cynlluniau posib i dorri nifer y cynghorau sir yng Nghymru o 22 i wyth neu naw.

Ond gan mai llywodraeth leiafrifol sydd gan Lafur yn y Cynulliad bellach, mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi cydnabod nad oes ganddo ddigon o gefnogaeth i gymeradwyo’r cynlluniau.

Mark Drakeford sydd bellach yn hen swydd Leighton Andrews, sydd â theitl newydd: Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford:

“Rwy’n deall bod angen eglurder ynghylch yr aildrefnu, ond er mwyn symud ymlaen rhaid i ni ddatblygu dull gweithredu y mae modd ei gyflawni ac sy’n gynaliadwy.

“Dros yr ychydig wythnosau a misoedd nesaf byddaf yn cyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol ymysg eraill, ac yn gwrando ar eu sylwadau cyn ystyried sut i weithredu yn y tymor hir. Mae pawb am ein gweld yn cael y broses hon yn iawn.”

“Allwn ni ddim parhau fel hyn”

“Mae’n anodd iawn (i gynghorau) symud ymlaen ar hyn o bryd,” meddai Steve Thomas, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth golwg360.

“Does dim amheuaeth ei fod yn cael effaith ar forâl staff. Mae hefyd yn effeithio ar recriwtio achos dydy rhai pobol ddim am geisio am swydd gydag awdurdod penodol os na fydd yn bodoli yn y blynyddoedd nesaf.

“Dyw’r ansicrwydd hwn ddim yn iach o gwbl a dyna pam ein bod ni wedi galw am eglurder achos allwn ni ddim parhau fel hyn, mae’n rhaid i ni wybod yn fuan beth yw’r cam nesaf yn y broses.”

Mae’r Gymdeithas, sy’n “croesawu” Mark Drakeford i’w swydd newydd, wedi ysgrifennu at Carwyn Jones yn gofyn am gyfarfod neu gynhadledd rhwng y llywodraeth a’r cynghorau sir.

Doedd Steve Thomas ddim am ddweud os oedd yn hapus i weld Leighton Andrews yn gadael y swydd.