Llun: PA
Mae’r targedau diweddaraf yn dangos bod y bwlch rhwng targed Llywodraeth Cymru a’r niferoedd gwirioneddol sydd ar gyrsiau hyfforddi athrawon yn ehangu.

Ar gyfer y flwyddyn academaidd oedd yn dechrau ym mis Medi 2015, ni chafodd dros draean, 37%, o’r lleoedd hyfforddi  eu llenwi. Yn 2010, roedd y bwlch yn llai na 10%.

553 oedd nifer y myfyrwyr a ddechreuodd y cwrs ymarfer dysgu uwchradd y flwyddyn hon, gyda tharged y Llywodraeth yn 880.

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, mae niferoedd y lleoedd gwag ym maes dysgu yn “parhau i fod yn isel iawn.”

Er nad oes prinder athrawon yn gyffredinol yng Nghymru ar hyn o bryd, dywedodd undeb athrawon UCAC wrth golwg360, fod “prinder difrifol mewn rhai meysydd” fel pynciau gwyddoniaeth a Chymraeg ail iaith.

‘Gormod o fiwrocratiaeth’

Yn ôl UCAC, mae nifer o ffactorau yn gyfrifol, ond y prif ffactorau yw bod gormod o fiwrocratiaeth, sydd “ddim yn ddefnyddiol” i godi safonau, a diffyg cynllunio strategol ar gyfer y gweithlu.

“Un o’r pethau pwysicaf yw’r canfyddiad o ba mor atyniadol yw’r swydd a’r proffesiwn,” meddai Rebecca Williams, swyddog polisi UCAC.

“Dwi’n credu bod ‘na effaith o lot o sylw negyddol yn y cyfryngau, yn aml yn deillio gan wleidyddion ynghylch athrawon ac ysgolion – pethau fel canlyniadau PISA a bandio ysgolion.

“Mae’r swydd wedi mynd yn llai atyniadol oherwydd lefel y fiwrocratiaeth. Dwi’n credu y byddai unrhyw athro’r dyddiau ‘ma yn dweud wrthoch chi bod y baich gwaith wedi mynd yn hollol afresymol.”

Dywedodd hefyd nad oedd unrhyw un erbyn hyn yn hyrwyddo’r proffesiwn a recriwtio, er bod asiantaeth wedi gwneud yn y gorffennol.

Ac yn ôl UCAC, gall y broblem fod yn ehangach, gan nad ydyn nhw’n ystyried nifer y myfyrwyr sydd ddim yn cwblhau’r cwrs a nifer yr athrawon sy’n gadael y proffesiwn.

“Mae’r blynyddoedd cyntaf (o ddysgu) yn galed iawn ac mewn ffordd, mae’r fiwrocratiaeth ychwanegol wedi bwrw’r rheini yn waeth achos maen nhw’n gorfod paratoi popeth yn drwyadl iawn am y tro cyntaf,” meddai Rebecca Williams.

Cynllunio strategol

Mae UCAC yn galw am gynllun strategol dros y gweithlu addysg yng Nghymru a fyddai’n dadansoddi gweithlu’r sector addysg, eu sgiliau a’u cymwysterau, a’u proffil oedran i ystyried y nifer sy’n debygol o ymddeol.

“Mae sawl agwedd ohono ac mae angen eu taclo mewn ffordd wahanol ond mae angen gwneud e neu mi fydd e’n fwy o broblem i’n hysgolion ni,” ychwanegodd Rebecca Williams.

“Mae’n hen bryd ein bod ni’n dechrau cynllunio’n llawer mwy strategol.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn “ymroddedig i recriwtio unigolion â’r sgiliau, cymwysterau ac ymrwymiad cywir i’r proffesiwn.”

“Dyna pam bod yr anogaeth hyfforddi ar gael yng Nghymru i annog graddedigion o ansawdd uchel i ystyried addysgu fel gyrfa.”