Cabinet Llywodraeth Cymru
Mae’r elusen Oxfam Cymru yn dweud ei bod wedi cael ei “tharo” gan y ffaith nad oes swydd weinidogol â chyfrifoldeb uniongyrchol am fynd i’r afael â thlodi yng Nghabinet newydd Llywodraeth Cymru.

Ddoe, fe gyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ei gabinet o 10 aelod, sy’n cynnwys Ysgrifennydd dros yr Economi, Addysg ac Iechyd, ymhlith pynciau eraill.

Ond, gyda bron i un o bob pedwar o deuluoedd yn byw mewn tlodi yng Nghymru, mae absenoldeb Ysgrifennydd dros dlodi yn destun pryder, yn ôl Oxfam.

“Dylai mynd i’r afael â hyn fod yn uchel ar yr agenda, nid yn gwbl absennol,” meddai’r elusen mewn datganiad.

Yn ei maniffesto, Glaslun i Gymru, cyn etholiadau’r Cynulliad, galwodd Oxfam Cymru ar y Llywodraeth newydd i benodi dirprwy weinidog yn yr Adran Gyllid, gyda chyfrifoldeb llwyr dros asesu’r gwaith o ddileu tlodi.

Mae’r gwaith hwn, meddai, yn cynnwys lleihau anghydraddoldeb economaidd a chodi safonau byw cartrefi sydd â chyllideb isel.

Mwy o dlodi gydag ansicrwydd dur?

Yn ôl Oxfam Cymru, mae eu galwadau hyd yn oed yn fwy pwysig, gydag ansicrwydd dros ddyfodol miloedd o weithwyr dur Tata yng Nghymru.

Mae’r elusen yn dweud y gallai’r argyfwng olygu “bod miloedd yn fwy o deuluoedd yn byw o dan y ffin dlodi.”

“Mae’n rhaid mynd i’r afael â thlodi er mwyn sicrhau ffyniant economaidd,” meddai’r datganiad.

Mae’r elusen nawr yn aros i glywed manylion llawn portffolio pob swydd yn y Cabinet.

“Rydym yn aros yn eiddgar am y manylion hyn, ynghyd â’r Rhaglen Lywodraethu, a ddylai amlinellu eu cynlluniau i leihau’r lefelau tlodi enbyd sydd wedi rhwydo teuluoedd ers degawd,” meddai.

“Yn eu maniffesto etholiadol, addawodd Llywodraeth newydd Cymru fod “yno i chi a’ch teulu yn ystod yr adegau pwysig”.Nawr yw’r amser i gyflawni’r addewid hwnnw, a hynny i bob teulu yng Nghymru.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.