Radio cymru (Llun: RhysHuw1 CCA 3.0)
Roedd mwy o bobol yn gwrando ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales yn ystod tri mis cyntaf 2016 yn ôl ffigurau diweddaraf Rajar.

112,000 o wrandawyr wythnosol oedd gan Radio Cymru yn nhri mis cyntaf eleni. Cynnydd o 4,000 ers y chwarter blaenorol ond gostyngiad o 14,000 o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Gwelwyd gostyngiad o 29,000 yn ffigurau Radio Wales, gyda’r orsaf yn llwyddo i ddenu 380,000 o wrandawyr bob wythnos.

Stori gymysg i orsafoedd eraill

Bu cwymp ar y cyfan yn sector fasnachol radio yng Nghymru gyda nifer gwrandawyr Heart Gogledd a De Cymru’n gostwng.

Bu cynnydd yn nifer cynulleidfa Capital De Cymru ond gostyngiad yn niferoedd Capital Gogledd Cymru.

Ac er bod niferoedd The Wave yn Abertawe wedi gweld cynnydd bychan, siomedig oedd y niferoedd hefyd i Bridge FM, Radio Ceredigion, Radio Carmarthenshire a Swansea Sound.

‘Dewis ehangach’

Fe gyhoeddodd BBC Radio Cymru yr wythnos hon y byddan nhw’n cynnig dewis ehangach o raglenni i’w gwrandawyr ar blatfformau digidol ac ar-lein am gyfnod penodol yn yr hydref.

Am dri mis yn ystod boreau’r wythnos waith, fe fydd modd gwrando ar raglenni ychwanegol ar wefan yr orsaf, ar iPlayer neu ar radio DAB yn y de ddwyrain.

Er hyn, fe fydd y rhaglenni arferol hefyd yn cadw at amserlen wreiddiol y brif orsaf ar FM a DAB.

Ond, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y BBC i wneud y trefniant hwn yn un parhaol, gan ddweud na all un orsaf fod yn “bopeth i bawb.”