Joe Woolford (Llun o'i gyfrif Twitter)
Fe fydd Cymro o Ruthun yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth gerddorol yr Eurovision heno.

Mae Joe Woolford yn un rhan o ddeuawd ‘Joe and Jake’ gyda Jake Shakeshaft, a nhw fydd yn canu’r gân ‘You are not Alone’ yn y gystadleuaeth sy’n cael ei chynnal yn Stockholm, prifddinas Sweden, heno.

Fe ddaeth y ddau ganwr i nabod ei gilydd tra’r oedden nhw ill dau’n cystadlu’n erbyn ei gilydd fel unawdwyr ym mhedwaredd gyfres ‘The Voice’ y BBC y llynedd.

Wedi i’r gyfres honno ddod i ben, fe ddaethon nhw at ei gilydd a ffurfio grwp ar y cyd.