Mae tref lan môr Y Barri wedi canslo sioeau Punch a Judy o ganlyniad i bryderon bod y sioe byped yn trin trais domestig yn ysgafn.

Fe gafodd y sioe byped ei thynnu o ddigwyddiad a fydd yn cael ei gynnal ar Fehefin 4-5, a hynny wedi i Gyngor y Barri ofyn i swyddogion y Cyngor Sir i sgrapio’r sioe, gan ei bod yn cynnwys “elfennau amhriodol”.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Johnson, fod Cyngor y Barri wedi pasio mesur yn gwrthwynebu trais domestig yn unol gyda deddfwriaeth Llywodraethau Cymru a Phrydain, gan ddadlau wedyn bod y sioe yn mynd yn erbyn yr amcanion hyn.

“Dw i ddim yn gwybod union gynnwys y sioe, ond mae ganddi elfennau o bobl taro ei gilydd a nid yw hynny’n rhywbeth yr ydym eisiau ei hyrwyddo,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor y Fro, “Tra’n trefnu digwyddiadau ar gyfer y penwythnos, cafodd llu o weithgareddau traddodiadol eu hystyried er mwyn sicrhau fod eu hapel i bawb. Ni fydd y Sioe Punch a Judy a gafodd ei hystyried ddim yn digwydd.”