Darlun artist o'r hyn sydd i ddod
Mae £3.3miliwn i’w wario ar ardal harbwr Caernarfon er mwyn ei throi’n gyrchfan siopa a man deiniadol i ymwelwyr.

Bydd y cynllun yn “adfywio’r” hen gei llechi yn y dref, sy’n cael ei adnabod fel “Yr Ynys” yn lleol.

Daw’r arian o gronfa treftadaeth y Loteri, dan y rhaglen Menter Treftadaeth, sydd wedi’i sefydlu i wario arian ar adeiladau segur hanesyddol ledled Prydain, er mwyn eu hail-ddefnyddio.

Bydd yr “adfywio” yng Nghaernarfon yn cynnwys creu “llecynnau artisan” i fusnesau dylunwyr, siopau, pobwyr lleol a chwmnïau bragu bychan.

Bydd y cynllun, meddai’r trefnwyr, hefyd yn “dathlu” hanes yr ardal – y diwydiant llechi a gwaith haearn oedd mor ganolog i’r dref flynyddoedd yn ôl.

“Cartref” i grefftwyr yr 21ain ganrif

“Gall glannau’r dŵr Caernarfon fod yn gartref eto i grefftwyr yr 21ain ganrif,” meddai Cadeirydd Ymddiriedolaeth yr Harbwr, Ioan Thomas.

“Erbyn hyn mae cynhyrchwyr bwyd a diod, micro-fragwyr, pobwyr gwlad ac artistiaid lleol yn helpu ffurfio Cymru yn y ffordd y gwnaeth gweithwyr haearn a llechi ar un adeg – ac rydym eisiau chwarae ein rhan yn gofalu fod ganddynt leoliad ffyniannus, wedi’i adfywio i wneud hynny ynddo.

“Mae glannau’r dŵr yn denu nifer cyson o ymwelwyr, felly bydd siopau artisan, preswylfeydd artistiaid a llecynnau cymunedol yn olynwyr delfrydol i’r adeiladau diwydiannol segur sydd ar y safle ar hyn o bryd, a bydd yn helpu gwau Caernarfon fodern gyda’i threftadaeth ddiwydiannol.”

“Chwa o awyr iach”

Mewn hinsawdd sy’n “heriol yn ariannol”, mae angen “darganfod ffyrdd arloesol i gynnal treftadaeth”, yn ôl y Farwnes Kay Andrews, Ymddiriedolydd Prydain a Chadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru.

“Dyna pam ein bod yn cyflwyno dulliau newydd megis Menter Treftadaeth, rhaglen grant all fod yn chwa o awyr iach i’r adeiladau hanesyddol bendigedig yma yng nghalon Caernarfon, sydd yn bartneriaeth bwerus rhwng arian Treftadaeth a buddsoddiad masnachol.